Cost of Living Support Icon

 

Cynllun Grant Bioamrywiaeth Partneriaeth Natur Lleol y Fro

Mae Partneriaeth Natur Lleol Bro Morgannwg yn chwilio am brosiectau bioamrywiaeth gan sefydliadau a grwpiau lleol Bro Morgannwg, fydd yn cyflawni ein nod o gynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth a hybu gwydnwch ecosystemau.

  • Dydd Llun, 16 Mis Hydref 2023

    Bro Morgannwg

 

 

 

Nature-and-wildlife-photos

Mae’n rhaid i'ch prosiect ymgysylltu â'r gymuned leol a chael effaith arni a bod o fudd i fioamrywiaeth gan ddefnyddio'r cyllid a ddarparwyd. Gwneir ariannu'r grant hwn yn bosibl trwy'r Cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

 

Bydd y Cynllun Grant ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng Dydd Llun 16 Hydref a Dydd Llun 20 Tachwedd 2023. Rhaid talu holl gostau'r prosiect cyn dydd Iau 29 Chwefror 2024.

 

Cynllun Grant ar agor: Dydd Llun 16 Hydref

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais a'r Cynllun Grant yn cau: Dydd Llun 20 Tachwedd 2023

 

Haen Un – hyd at £500

Ar gyfer darparu offer, deunyddiau ac adnoddau, gyda’r nod o greu a/neu reoli cynefinoedd, ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

 

Haen Dau - £500 i £5000

Ar gyfer darparu gwaith ar raddfa fwy, gyda’r nod o greu, adfer a/neu reoli cynefinoedd gan ddefnyddio contractwyr.

 

Crëwyd cyfres o ddogfennau ategol i'ch helpu i gwblhau eich cais,  mae hyn yn cynnwys syniadau ar gyfer prosiectau, canllawiau arolygon a rhestr awgrymedig o gyflenwyr:

 

Bydd eich cais yn cael ei ystyried gan banel Grantiau Partneriaeth Natur Leol y Fro, sy'n cynnwys aelodau o Grŵp Llywio Partneriaeth Natur Leol y Fro. Bydd y panel yn adolygu pob cais ar ôl y dyddiad cau.

 

Ymgeisio 

I wneud cais, llenwch ffurflen gais a'i dychwelyd at:

 

 

Dyddiad cau:

Dydd Llun 20 Tachwedd 2023 

 

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda'r ffurflen, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am syniadau ar gyfer eich prosiect cyn cwblhau'r cais, cysylltwch â ni.

 

 

Local Nature Partnership      Funded-by-Welsh-Government-logo