Trawsnewidiad Nadoligaidd ar gyfer hen adeilad Wilko y Barri
Mae hen arch-siop Wilko ar Heol Holton yn y Barri wedi cael gweddnewidiad Nadoligaidd fel rhan o waith trawsnewid yn dilyn y cyhoeddiad y byddai Cyngor Bro Morgannwg yn prynu’r safle.
Comisiynwyd chwe artist lleol i gynhyrchu nifer o weithiau celf i droi ffenestri gwag y siopau yn arddangosfeydd hyfryd â thema'r gaeaf.
Gweithiodd yr artistiaid yn gyflym i gael yr arddangosfeydd ffenestri wedi'u cwblhau mewn pryd ar gyfer digwyddiad Goleuadau Nadolig y Barri.
Mae gwaith hefyd ar y gweill i newid arwyddion ar flaen ac ochrau'r adeilad, fel arwydd o ddechrau cyfnod newydd wrth i’r adeilad ddod yn ased cymunedol bywiog.
Roedd Emma George, artist amlddisgyblaethol, a'r darlunydd Matt Joyce ymhlith yr artistiaid a ddewiswyd ar gyfer y prosiect.
Dyfeisiodd Emma ddau waith celf unigryw - gan gynnwys arddangosfa ffenestr o Barc Gwledig Porthceri gyda phont ryngweithiol a thrên stêm yn ogystal â Wal Gelf Pop gyda llysiau ar thema Nadolig.
Cynhyrchodd Matt olygfa aeafol liwgar a bywiog a wnaed gyda haenau o waith celf ar fyrddau ysgafn.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae gweld hen adeilad Wilko yn ôl yn fyw gyda gwaith celf mor ddychmygus a bywiog yn ffordd wych o ddechrau trawsnewidiad pwysig y gofod hwn yng nghanol y dref.
“Mae Heol Holton wrth wraidd cymuned y Barri, ac rydym am sicrhau, hyd yn oed tra bod cynlluniau tymor hir yn cael eu datblygu, nad yw'r adeilad yn eistedd yn wag.
“Drwy gomisiynu artistiaid lleol, rydyn ni'n dathlu'r creadigrwydd sy'n ffynnu o fewn ein cymuned ein hunain ac yn rhoi rhywbeth i’w fwynhau i drigolion yn ystod tymor yr ŵyl.”