Mae Achos Sion Corn Yn Dychwelyd ar gyfer Nadolig 2025!
Mae ymgyrch rhoi rhoddion a chodi arian Cyngor Bro Morgannwg, Achos Siôn Corn, wedi dychwelyd am ei bedwaredd flwyddyn.
Nod yr ymgyrch yw darparu anrheg i bob plentyn a gefnogir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a allai fel arall fynd hebddo.
Dylai'r Nadolig fod yn gyfnod o hapusrwydd a dathlu. Yn anffodus, i lawer o deuluoedd, gall hefyd fod yn gyfnod o bryder a straen ariannol.
Ers iddo ddechrau yn 2022, mae Achos Siôn Corn wedi cyflwyno miloedd o anrhegion i blant a phobl ifanc ledled y Fro, gan ddarparu rhyddhad mawr ei angen i deuluoedd.
Dim ond diolch i haelioni trigolion lleol, busnesau a staff y Cyngor y bu hyn yn bosibl.
Gall y rhai sy'n dymuno cefnogi ymgyrch 2025 wneud hynny drwy roi rhodd ariannol: www.valeofglamorgan.gov.uk/achossioncorn
Mae hyn yn caniatáu i dîm y prosiect siopa am yr eitemau penodol ar restr Nadolig pob plentyn, gan sicrhau bod pob anrheg yn bersonol ac ystyrlon.
I'r rhai na allant gyfrannu'n ariannol, mae lledaenu'r gair ymhlith ffrindiau, teulu ac ar gyfryngau cymdeithasol yn ffordd werthfawr arall o gefnogi'r ymgyrch.
Gall busnesau a sefydliadau a hoffai fod yn rhan o Achos Siôn Corn 2025 gysylltu â santascause@valeofglamorgan.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Meddai'r Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae Achos Siôn Corn wedi tyfu'n rhywbeth gwirioneddol arbennig dros y pedair blynedd diwethaf.
“Bob Nadolig, rydym yn gweld y gwahaniaeth anhygoel y mae caredigrwydd ein cymuned yn ei wneud i blant a theuluoedd a allai gael trafferth fel arall.
“Mae ein timau Gwasanaethau Cymdeithasol yn dweud wrthym fod yr effaith yn enfawr.
“Nid yn unig mae gan blant anrheg i'w agor, ond mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u cofio ar adeg a all fod yn anodd iawn fel arall.
“Bydd pob cyfraniad, ni waeth pa mor fawr neu fach, yn ein helpu i ddod â llawenydd i blant y Fro y Nadolig hwn.”