Llyfrgell Penarth ar Restr Fer Gwobr Llyfrgell y Flwyddyn
Mae Llyfrgell Penarth wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfrgell y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain 2026.
Allan o 42 o lyfrgelloedd ledled y DU ac Iwerddon ar y rhestr fer eleni, mae Penarth yn un o dri o Gymru sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac mae'n tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol mae'r llyfrgell wedi'i gwneud wrth hyrwyddo darllen a llythrennedd i bobl o bob oed yn ogystal â gwella ymgysylltiad cymunedol.
Mae Gwobrau Llyfrau Prydain ymhlith rhai o'r anrhydeddau uchaf yn niwydiant llyfrau y DU, gan gydnabod rhagoriaeth mewn cyhoeddi, gwerthu llyfrau a gwasanaethau llyfrgell.
Mae categori Llyfrgell y Flwyddyn yn taflu sylw ar lyfrgelloedd sydd wedi gwneud gwahaniaeth eithriadol i'w cymunedau lleol drwy raglennu creadigol, gwasanaethau cynhwysol ac angerdd dros gysylltu pobl â llyfrau.
Amlygwyd yn y cais ar gyfer y wobr pwyslais ar y gwaith o fewn Llyfrgell Penarth i annog llythrennedd ymhlith plant a phobl ifanc.
Mae Llyfrgell Penarth wedi cael ei chydnabod am ei Grŵp Taith Darllen Plant, llwybr unigryw sy'n cefnogi darllenwyr ifanc o saith oed hyd at eu harddegau ac yna i wirfoddoli.
Mae grŵp darllen ‘Chatterbooks’ y llyfrgell, sy'n rhan o raglen a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ddarllen fel gweithgaredd allgyrsiol, wedi bod yn rhedeg ers mwy nag 20 mlynedd.
Trwy grwpiau gan gynnwys ‘Chatterbooks’, ‘BeTweens’, a'r Grŵp Darllen i Arddegwyr, mae plant a phobl ifanc ym Mhenarth yn datblygu cariad at ddarllen tra'n meithrin cyfeillgarwch parhaol. Mae llawer o gyfranogwyr yn parhau i gymryd rhan am flynyddoedd, gydag aelodau hŷn yn dychwelyd fel gwirfoddolwyr i fentora darllenwyr iau a chefnogi digwyddiadau llyfrgell.
Mae'r fenter wedi cryfhau ymgysylltiad teuluoedd, cynyddu benthyca llyfrau, ac wedi lleoli'r llyfrgell fel canolbwynt croesawgar i bobl ifanc. Yn ei chalon, mae'r daith yn creu nid yn unig ddarllenwyr hyderus, ond cymuned lewyrchus o lysgenhadon ifanc ar gyfer darllen.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Rydym wrth ein bodd bod Llyfrgell Penarth wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Llyfrgell y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain 2026. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn brawf o ymroddiad ein staff, gwirfoddolwyr a'n trigolion gwych sy'n gwneud y llyfrgell yn ofod cymunedol bywiog.
“Mae ein Grŵp Taith Darllen Plant yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl ifanc yn cael yr amser, yr anogaeth a'r ysbrydoliaeth i syrthio mewn cariad â darllen. Mae gweld y plant yn tyfu mewn hyder, yn dychwelyd fel gwirfoddolwyr, ac yn dod yn llysgenhadon ar gyfer llyfrau yn hynod arbennig. Rydym yn falch bod Llyfrgell Penarth yn parhau i fod yn ganolbwynt croesawgar lle mae straeon yn dod â phobl at ei gilydd.”
Bydd enillwyr gwobrau Llyfrgell y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Llundain ddydd Llun 11eg Mai 2026.