Cost of Living Support Icon

Caffael

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg Uned Gaffael Gorfforaethol sy’n gyfrifol am Strategaeth a Pholisi Caffael y Cyngor.

 

 

Mae’r Uned Gaffael Gorfforaethol yn gweithio gydag adrannau o bob rhan o'r Cyngor, ac yn rhoi cyngor iddynt, gyda'r nod o sicrhau'r gwerth gorau gyda nwyddau, gwasanaethau a gwaith mae'n eu prynu.

 

Wrth bwyso a mesur cynigion, maent yn cael eu hystyried naill ai ar sail y mwyaf manteisiol yn economaidd, o ran ansawdd a phris, neu ar sail y pris isaf, yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei brynu. Anogir rhai sydd â diddordeb mewn cyflenwi'r Cyngor i gofrestru ar y wefan gaffael genedlaethol GwerthwchiGymru, lle ceir hysbysebion am anghenion caffael y Cyngor.

 

Mae’r Cyngor hefyd yn rhan o gytundebau fframwaith a sefydlwyd gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS). Hysbysebir cyfleoedd busnes NPS hefyd ar wefan gwerthwchigymru.

 

GwerthwchiGymru

 

 

Datganiad Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i egwyddorion Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a dileu caethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Rydym wedi cyhoeddi Datganiad Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl sy'n nodi ein hymrwymiadau i sicrhau nad oes lle i gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn ein cadwyni busnes a chyflenwi: