Grant Lleol y Gronfa Cadernid Economaidd - Rownd 2 - AR GAU
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pecyn pellach o gymorth busnes ar gael drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) - I gwmpasu Gorffennaf 201 - Awst 2021
Cymorth i fusnesau sydd â throsiant o lai na £85,000
Bydd y Gronfa'n darparu cymorth ar ffurf grantiau arian parod i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd wedi gweld effeithiau negyddol sylweddol oherwydd cyfyngiadau parhaus COVID-19. Bydd y grantiau'n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorfennaf 2021 a 31 Awst 2021 a effeithiwyd yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau oedd ar waith o ddechrau'r cyfnod.
Yn benodol, bydd y Gronfa'n cefnogi busnesau sydd naill ai:
a) Wedi gorfod aros ar gau neu’n methu â masnachu oherwydd y cyfyngiadau parhaus rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021
b) Yn Ofod Digwyddiadau unigriw ac atyniadau wedi’u heffeithio'n ddifrifol gan reoliadau ymbellhau cymdeithasol parhaus
c) Busnesau eraill sydd ag >60% o effaith ar drosiant o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau parhaus ers 1 Mai ac nad oeddent yn gallu agor dan do cyn 17 Mai
d) Busnes cadwyn gyflenwi sy'n cynhyrchu 60% neu fwy o'i refeniw gwerthu gan fusnesau sy'n perthyn i gategorïau a), b) a/neu c)
AC (yn berthnasol i bawb):
Wedi cael eu heffeithio yn negyddol sylweddol drwy lai o drosiant o 60% neu fwy ym mis Gorffennaf ac Awst 2021 o'i gymharu â mis Gorffennaf a mis Awst 2019 a achoswyd yn uniongyrchol gan gyfyngiadau parhaus COVID-19.
Nid ydych yn gymwys i gael y grant hwn os:
-
Yw’r busnes yn cynhyrchu llai na 50% o'ch incwm os ydych chi'n unig fasnachwr neu’n bartneriaeth. Rhaid mai'r busnes yw eich prif ffynhonnell incwm.
-
Nad yw eich trosiant wedi gostwng o leiaf 60% o'i gymharu â'r cyfnod Gorffennaf/Awst yn 2019 neu gyfnod masnachu cyfatebol os sefydlwyd y busnes ar ôl y dyddiad hwnnw
-
Os ydych wedi cael cymorth gan y Gronfa Adferiad Diwylliannol - Cymorth i Weithwyr Llawrydd (a lansiwyd ar 17 Mai 2021).
-
Ydych chi wedi derbyn cyllid tuag at gostau ar gyfer yr un cyfnod o gronfeydd fel "Cronfa Cymru Egnïol" neu'r "Gronfa Cadernid Cymunedau”.
-
Mae cyfanswm y grantiau cymorth Covid-19 a gawsoch yn ystod y 12 mis diwethaf (gan gynnwys unrhyw ddyfarniad pellach drwy'r gronfa ddewisol hon) yn fwy na 100% o'ch trosiant ar gyfer blwyddyn fasnachu nodweddiadol (cyn Covid-19 neu wedi'i amcangyfrif heb effaith Covid-19 os sefydlwyd eich busnes ar ôl Mawrth 2019).
PWYSIG
-
Penderfynir ar geisiadau ar sail yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen gais, ar sail y dystiolaeth gysylltiedig ac ar ôl gwirio gwybodaeth o ffynonellau arall. Os bydd unrhyw ddata’n anghyflawn neu’n anghywir neu os na fyddwch wedi rhoi digon o dystiolaeth, byddwn yn cysylltu â chi, ond os na fydd ymholiadau’n cael eu bodloni, bydd y cais yn cael ei wrthod.
-
Cynghorwn yn gryf eich bod yn darllen y canllaw cyn cwblhau’r ffurflen gais.
-
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais i’r awdurdod lleol cywir.
-
Ein nod yw prosesu ceisiadau grant ymhen 30 diwrnod gwaith i’r dyddiad y bydd y cynllun yn cau, ond mae’n bosibl y bydd yn cymryd mwy o amser mewn ambell achos.
Wrth gyflwyno'ch cais bydd gofyn i chi gwblhau’r holl flychau a nodir a chynnwys y dogfennau tystiolaeth gofynnol. Cyfeiriwch at y canllaw i gael rhagor o fanylion. Mae dogfennau a lluniau wedi'u sganio yn fathau derbyniol o dystiolaeth..
Os oes angen i chi gysylltu â'r tîm, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost isod:
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.