Mae Swyddogion Diogelwch Bwyd yn cynnal archwiliadau rheolaidd o'r holl Safle Bwyd sy’n masnachu yn y fwrdeistref er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu diogelu; bod safonau uchel o hylendid bwyd yn cael eu cynnal ac yn y pen draw, bod bwyd yn ddiogel i'w fwyta. Mae pob busnes sy'n cynhyrchu, pacio, storio, cyflenwi neu werthu bwyd (gan gynnwys diod) yn destun i archwiliad.
Gall archwilio eiddo ddigwydd ar unrhyw adeg resymol gyda neu heb rybudd ymlaen llaw. O bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn gwneud apwyntiadau ar gyfer ymweliadau. Os oes Swyddog Diogelwch Bwyd yn galw, byddant yn dangos eu cerdyn adnabod ac awdurdodiad i chi, ac mae gennych hawl i weld y rhain.
Mae gan Swyddogion Diogelwch Bwyd yr hawl i fynd i mewn i'r eiddo ar unrhyw adeg resymol neu pan fyddant yn amau y gallai fod problem benodol. Mae ganddynt hawl i gymorth ac i gael atebion i’w cwestiynau. Yn ystod yr ymweliad, mae ganddynt hawl gyfreithiol i siarad â gweithwyr, cymryd samplau (gweler isod), ffotograffau, ac os oes angen, atafaelu neu gadw bwyd. Mae rhwystro swyddog diogelwch bwyd yn drosedd.
Gall Swyddogion ofyn am gael gweld dogfennau megis asesiadau HACCP (Hazard Analysis Critical Control Point), dogfennau Safer Food Better Business (SFBB), cofnodion tymheredd, cofnodion hyfforddi, cofnodion rheoli plâu neu amserlenni glanhau, a dylai’r rhain fod ar gael ar y safle i'w harchwilio.
Ar ddiwedd yr archwiliad, bydd y swyddog yn eich hysbysu o'u canfyddiadau a pha gamau pellach, os o gwbl, y byddant yn eu cymryd a beth sydd angen i chi ei wneud. Byddant yn trafod gyda chi yr amser a ganiateir ar gyfer cydymffurfio â'r gyfraith. Yn gyffredinol, byddwch yn cael cyfnod rhesymol o amser i wella safonau er y gall rhai gofynion fynnu eich sylw ar unwaith. Byddwch fel arfer yn cael adroddiad ar yr archwiliad ar y pryd, neu efallai y gadewir copi ar y safle i chi. O bryd i'w gilydd, bydd llythyr yn cael ei anfon i gadarnhau'r archwiliad ac i adrodd ar y canfyddiadau.