Gall swyddogion awdurdodedig y cyngor a/ neu lawfeddygon/ymarferwyr milfeddygol awdurdodedig fynd i mewn ac archwilio siop anifeiliaid anwes ar unrhyw adeg resymol.
Pan fo person yn euog o unrhyw drosedd o dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 neu unrhyw drosedd o dan unrhyw un o adrannau 4,5,6 (1), (2), 7 i 9, a 11 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, gall y llys lle caiff ei gollfarnu ddileu unrhyw drwydded a ddelir ganddo dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951, a gall, p’un ai yw’n ddeiliad y fath drwydded ai pheidio, ei wahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes am y cyfryw gyfnod ag y gwêl y llys yn dda.
Deddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999 a Rheoliadau Gwerthu Cŵn (Tag Adnabod) 1999.
Mae’n bwysig i geidwaid siop anifeiliaid anwes nodi bod rhaid yn ôl y gyfraith i geidwaid sefydliadau bridio trwyddedig, wrth werthu i siop anifeiliaid anwes, ddarparu ci sydd â choler gyda thag neu fathodyn adnabod.
Bydd ceidwad siop anifeiliaid anwes drwyddedig yn dod yn euog o drosedd os yw’n gwerthu ci a oedd, pan gafodd ei gyflenwi iddo, yn gwisgo coler gyda thag neu fathodyn adnabod ond nad yw'n gwisgo coler o'r fath pan gaiff ei gyflenwi i'r person y mae'n cael ei werthu iddo.
Tag neu fathodyn adnabod, mewn perthynas â chi, yw’r tag neu fathodyn sy'n dangos gwybodaeth glir ynghylch y sefydliad bridio trwyddedig lle y cafodd ei eni, dyddiad geni'r ci, a rhif adnabod, os o gwbl, a ddyrennir i’r ci gan y sefydliad bridio trwyddedig lle cafodd ei eni.