Y Broses Ymgeisio
Rhaid cwblhau ffurflen gais gan ddatgan unrhyw gollfarnau. Rhaid cyflwyno’r canlynol:
- ffurflen gais berthnasol
- dau lun pasbort o’r ymgeisydd a phob cynorthwyydd arfaethedig
- ffi ymgeisio berthnasol (nid oes modd ei had-dalu)
Nodyn: Rhaid talu ffi gymeradwyo cyn y gellir cyflwyno’r
Rhaid i chi gynnig gwybodaeth benodol, gan gynnwys manylion am y stryd yr ydych yn dymuno masnachi arni a'r dyddiau a’r amseroedd perthnasol. Unwaith y mae cais cyflawn wedi’i gyflwyno, bydd ymgynghoriadau gyda phartïon â diddordeb yn cael eu cynnal gan gynnwys Iechyd yr Amgylchedd, Priffyrdd, Yr Awdurdod Tân, yr Adran Gynllunio ac Awdurdod yr Heddlu.
Mae’r cyfnod ymgynghori yn para 28 diwrnod.
Dan amgylchiadau penodol, os oes digon o sail i wrthod y cais, gall y Cyngor gyflwyno'r drwydded am ychydig llai o ddyddiau na ofynnwyd amdanynt, neu i fasnachu eitemau penodol yn unig. Bydd y cyngor un ai’n cymeradwyo'r cais neu yn cyflwyno hysbysiad i chi o fewn amser rhesymol.
Bydd yr hysbysiad yn cael ei gyflwyno os yw'r cyngor yn bwriadu gwrthod cais, yn ei gyflwyno ar delerau gwahanol na’r rhai y gofynnwyd amdanynt, yn cyfyngu ar y masnachu i le penodol mewn stryd, amrywio amodau trwydded neu ddiddymu trwydded. Bydd yr hysbysiad yn cynnwys manylion ar y rhesymau dros y penderfyniad ac yn nodi y gallwch gyflwyno sylwadau'n ysgrifenedig o fewn saith diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad.
Adnewyddu
Os mai “adnewyddu” yw’r bwriad, rhaid cyflwyno ffurflen gais gyflawn, ffurflen datgan collfarnau ar gyfer pob cynorthwyydd a’r ffi berthnasol cyn i drwydded bresennol ddod i ben.
Masnachu Stryd mewn Digwyddiad Cymunedol
Ar 9 Gorffennaf 2013, gwnaeth y Pwyllgor Trwyddedu benderfynu i ddiwygio’r polisi Masnachu Stryd i gynnwys proses ymgeisio symlach a rhatach i fasnachwyr sy’n dymuno cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol a masnachu am un diwrnod yn unig.
Rhaid cyflwyno'r dogfennau i’r Is-adran Trwyddedu o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Bydd proses ymgynghori cyfyngedig yn digwydd, e.e. pan fo’r masnachwr yn bwriadu gwerthu bwyd bydd rhaid ymgynghori ag Adran Iechyd yr Amgylchedd.
Bydd masnachwyr yn derbyn Hysbysiad Caniatâd gan Awdurdod Trwyddedu gan gadarnhau eu bod yn caniatáu i hyn ddigwydd. Bydd unrhyw fasnachwr nad ydynt wedi derbyn Caniatâd i fasnachu yn y digwyddiad yn cael eu hystyried yn Fasnachwyr Stryd anawdurdodedig ac yn destun camau cyfreithiol.