Browser does not support script.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried cyflogaeth ym maes arlwyo a lletygarwch. Byddwch yn dysgu sut i weini bwyd a diodydd, cyflwyno byrddau a gwasanaeth byrddau, paratoi byrbrydau syml ac ennill cymhwyster defnyddiol.
Bydd y cwrs hwn yn ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth eang o gyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli. Byddwch yn cael y cyfle i ennill cymhwyster sylfaenol ym maes Iechyd a Diogelwch.
Gall y cwrs hwn eich helpu i wella’ch hyder a’ch hunan-barch. Byddwch yn ystyried beth yw bod yn hyderus ac ymddwyn mewn modd pendant. Byddwch yn dysgu sut i gyfathrebu’n fwy effeithiol.
Dysgwch sgiliau gwerthfawr ar gyfer unrhyw amgylchedd cwsmeriaid, gan gynnwys derbynfa, swyddfa a chanolfannau galwadau. Dysgwch sut i gyfathrebu’n effeithiol, rhoi gwybodaeth a chyngor a delio â chwynion.
Bydd y cwrs hwn yn eich addysgu sut i weithio gyda phren ac adeiladu project gwaith pren. Magwch yr hyder i ddefnyddio offer llaw ac offer trydan.
Dysgwch sgiliau uwchgylchu ac adfer hen ddodrefn. Byddwch yn dysgu sut i drwsio, adnewyddu ac ailwampio eitemau eich cartref ac arbed arian!
Gall bywyd teuluol achosi straen. Byddwch yn ystyried achosion, arwyddion a symptomau straen a datblygu ffyrdd o reoli sefyllfaoedd, lleihau straen, cadw'n ddi-gynnwrf a chario ymlaen!
Dysgwch sut i reoli eich arian, cyllideb eich cartref a’ch biliau ynni. Byddwch yn dysgu am fancio ar-lein, gwefannau cymharu a lleihau costau eich gwariant.
Dyma gwrs Agored Cymru lefel 1 achrededig. Byddwch yn dysgu Iaith Arwyddion Prydain bob dydd sylfaenol sy’n addas ar gyfer y cartref, y gymuned, y gweithle a gwaith gwirfoddol.
Am fanylion am y cwrs nesaf sydd ar gael yn eich ardal, neu i gadw eich lle, cysylltwch â:
Canolfan Ddysgu Gymunedol Palmerston
Cadoc Crescent, Y Barri CF63 2NT