Gollyngiad Elusennol ac Ychwanegol o Ardrethi
Gollyngiad Gorfodol o Drethi
Mae gan elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol hawl i ollyngiad 80% o ardrethi ar unrhyw eiddo ardrethi annomestig yn yr achosion canlynol:
- yn achos elusennau, mae’r eiddo yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at bwrpasau elusennol, neu
- yn achos clwb, mae’r clwb wedi'i gofrestru gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
At hyn mae gan awdurdodau bilio ddisgresiwn i ddileu'r cyfan neu ran o'r 20% o'r bil sy'n weddill ar eiddo o'r fath.
Gollyngiad Dewisol o Ardrethi
Gall Awdurdod Bilio roi Gollyngiad Dewisol o Ardrethi hyd at fwyafswm o 100% os yw adeilad yn cael ei feddiannu gan rai cyrff na sefydlwyd i wneud elw neu nad ydynt yn cael eu rhedeg i wneud elw.
Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC)
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chlybiau dylech gysylltu â: Cyllid y Wlad, Adeiladau’r Llywodraeth, Heol Tŷ Glas,
Llanisien, Caerdydd, CF14 5FP, neu drwy wefan Cyllid y Wlad: www.hmrc.gov.uk
Gollyngiad i Fusnesau Bach o Ardrethi
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn dros dro yr SBRR i fis Mawrth 2019 ar gyfer eiddo busnes gyda gwerth ardrethol o hyd at £6,000 a fydd yn derbyn gollyngiad o 100% a bydd y rhai â gwerth ardrethol rhwng £6,00a a £12,000 yn derbyn gollyngiad o sail bob yn dipyn.
Percentage
Enghraifft o ganrannau bras y gollyngiad bob yn dipyn
|
Gwerth Ardrethol
|
% Gollyngiad
|
0-6,000 |
100 |
7,000 |
83.4 |
8,000 |
66.6 |
9,000 |
50.0 |
10,000 |
33.3 |
11,000 |
16.6 |
12,001 |
0 |
Pan fydd busnesau’n derbyn cyfradd uwch o ollyngiad o dan y cynllun presennol nag o dan y cynllun wedi’i wella byddant yn derbyn y gyfradd o ollyngiad sy'n fwyaf o fudd iddynt.