Asiantau Gorfodi
Mae'r Cod Ymddygiad Asiantau Gorfodi (Saesneg) yn rhoi gwybod i'n Hasiantau Gorfodi sut y dylent ymddwyn wrth gasglu Treth Gyngor neu Ardrethi Busnes sydd heb eu talu.
Mae'r cod hwn yn cydymffurfio â’r Safonau Asiantau Gorfodi Cenedlaethol (Saesneg).
Cymryd Rheolaeth o Gostau Nwyddau
Rheoliadau Cymryd Rheolaeth o Nwyddau (Ffioedd Gorfodi 4 Tabl 1)
Control of goods cost
Cam Ffi | Ffi Sefydlog | Ffi ar gyfer swm mwy na £1,500 |
Cam Cam Cydymffurfio |
£75.00 |
0% |
Cam Gorfodi |
£235.00 |
7.5% |
Cam Gwerthu neu Waredu |
£110.00 |
7.5% |
Pobl agored i niwed
Rydyn ni’n gwneud ymdrech arbennig i fod yn sensitif tuag at bobl agored i niwed. Byddwn yn defnyddio casglwyr arbennig yn yr achosion hyn os oes angen. Diffinnir pobl agored i niwed fel:
- pobl sy'n dioddef o nam meddyliol neu ddryswch meddyliol
- pobl sy'n sâl yn yr hirdymor neu sy'n dioddef o salwch neu fregusrwydd difrifol
- pobl sy'n fyddar neu ddall, neu sydd â golwg neu glyw cyfyngedig
- pobl sydd wedi dioddef profedigaeth ddiweddar yn y teulu neu’r cartref
Os nad oes Asiant Gorfodi wedi cysylltu â chi a’ch bod yn perthyn i un o’r categorïau uchod, cysylltwch â’r Adran Refeniw ar unwaith.
Cwynion
Weithiau, waeth pa mor galed y gweithiwn ni, bydd pethau'n mynd o chwith. Helpwch ni i unioni pethau.
Gallech fod am gwyno am y rhesymau canlynol:
- nid ydym wedi eich trin chi'n deg
- nid ydym wedi eich trin chi'n gwrtais
- dydyn ni heb wneud rhywbeth y dylen ni fod wedi'i wneud, neu
- rydyn ni wedi gwneud rhywbeth yn wael
Ysgrifennwch at: Y Cyfarwyddwr Adnoddau, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri CF63 4RU.
Byddwn yn ymchwilio i bob cwyn ac yn anfon ymateb ysgrifenedig atoch o fewn 10 diwrnod gwaith.
Desgiau ymholi
Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth ‘un stop’ cyfeillgar a phroffesiynol ar gyfer eich holl ymholiadau Refeniw neu Fudd-dal Tai a’r Dreth Gyngor. Galwch draw: Llun i Iau 9.00am - 4.30pm, Gwener 9:00am - 4:00pm yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri.
Llinell Gymorth
Ffoniwch ni rhwng 8:45am a 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Iau neu rhwng 8:45am a 4:00pm ar ddydd Gwener.
Telephone Numbers
Treth Gyngor
|
01446 709564 |
Ardrethi Annomestig |
01446 709299 |
Budd-dal Tai a'r Dreth Gyngor |
01446 709244 |
Ymweliadau â’r Cartref (yn ystod y dydd yn unig)
Os na allwch ddod i'n gweld ni, ffoniwch y rhifau uchod ac mae'n bosibl y gallwn drefnu ymweliad â'ch cartref dan amgylchiadau arbennig.