Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mwynhau
Byw
Cyngor
Gweithio
Mae’r cynllun yn cynnig rhyddhad i eiddo rhag Ardrethi Eiddo Gwag. Mae’r cynllun yn weithredol o 1 Hydref 2013
Mae’r polisi’n rhoi rhyddhad o 100% rhag ardrethi eiddo gwag ar gyfer eiddo annomestig nas meddiannir am y 18 mis cyntaf ar ôl cwblhau’r adeilad.
Rhaid i’r eiddo fod yn wag, gan gynnwys yn gyfan gwbl neu’n rhannol adeileddau newydd cymwys. (Yn gyfan gwbl neu’n bennaf yw mwy na hanner).
Mae’r polisi’n bwriadu nodi eiddo newydd ac eiddo a addaswyd yn sylweddol yn adeileddol, nid eiddo a adnewyddwyd.
Mae’r cynllun yn dod yn gymhleth iawn pan fo rhaniadau a chyfuniadau eiddo’n digwydd ac mae’n cyfeirio at y Nodyn Canllaw Technegol ar Ryddhad Datblygiadau Newydd.
O ran newid perchenogaeth mae’r rhyddhad yn berthnasol i’r eiddo yn hytrach na’r perchennog.
Ni all y cynllun wneud cais i Lywodraeth Cymru/Llywodraeth y DU; Awdurdod Cyhoeddus; y Goron na rhedeg yn gyfochrog ag unrhyw gynllun arall ar gyfer sefydliad sy’n cael unrhyw grant cymorth arall o ran y Cynllun Ardrethi Busnes Ardaloedd Menter. Mae’r cynllun yn gwbl amodol ar gyfyngiadau de-minimis Cymorth Gwladwriaethol trethdalwyr.
Bydd angen i’r busnesau unigol gwblhau ffurflen gais y delir â hi’n unigol yn ôl ei rhinweddau ei hun yn unol â chanllawiau’r cynllun a nodir gan Lywodraeth Cymru.
Penderfyniad unigolyn neu sefydliad yw p’un a yw am wneud cais am y cynllun rhyddhad ardrethi hwn a chymryd y cyngor cyfreithiol neu broffesiynol angenrheidiol i lywio’r penderfyniad.
Gallwch wneud ymholiad i’r: Adran Ardreth Annomestig Genedlaethol, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri CF63 4RU.
Mae rhagor o wybodaeth yn www.wales.gov.uk
Gallwch hefyd gysylltu â Llywodraeth Cymru: