Buddsoddi yn y Barri

Y Barri yw’r dref fwyaf yng Nghymru. Datblygodd Canolfan weinyddol Bro Morgannwg yn gyflym iawn ar ddiwedd y 19ed ganrif a dechrau’r 20ed ganrif.

 

Roedd porthladd y Barri yn brif allforiwr o hyd at 11 miliwn o dunelli o lo ar ddiwedd yr 20fed ganrif gyda chysylltiadau trên cryf i ac o gymoedd de Cymru.  Mae hanes diwydiannol a masnachol anhygoel y dref yn sail i’r Barri fel y mae heddiw.
 
Erbyn heddiw, mae’r Barri yn dref gyda thros 47,000 o bobl yn byw ynddi ynghyd â llawer o gryfderau a chyfleoedd. Mae’r rhain yn cynnwys lleoliad arfordirol prydferth, ardal ddociau helaeth rhwng canol y dref, cyrchfan ar lannau'r môr a thraethau, rheilffordd yn rhedeg drwy ganol y dref, ei hagosatrwydd at y brifddinas i’r dwyrain ac unig Faes Awyr Rhyngwladol Cymru i'r gorllewin.
 
Mae gan breswylwyr fynediad rhwydd at barciau gwledig, traethau di-ri (gan gynnwys Bae Whitmore yn Ynys y Barri) a dewis o ganolfannau siopa, o'r brif ganolfan yn Heol Holltwn i’r Stryd Fawr yn rhan orllewinol y dref. Ychydig funudau yn y car mae Arfordir Treftadaeth Bro Morgannwg ac nid oes rhaid i chi yrru’n bell ychwaith i gyrraedd gwylltir gwledig unigryw Bro Morgannwg.
 
Mae'r Barri yn dechrau dod yn boblogaidd iawn gyda phobl sy'n creu ffilmiau. Yn wir, mae Casualty, Dr Who, The Sarah Jane Adventures, Gavin & Stacey a Being Human wedi’u ffilmio yn y Barri a’r cyffiniau.
 
Bydd dynodiad diweddar y Barri fel Ardal Adfywio yn rhoi hyder i brif bartneriaid ac yn rhoi sylfaen i sicrhau buddsoddiad i ddatblygu buddion economaidd a chymdeithasol i'r dref.

 

Ffeithiau a Ffigyrau

  •  Mynediad

    Mae tref y Barri yn hygyrch iawn i bobl sy’n teithio o Gasnewydd, Caerdydd ac Abertawe a hefyd o fannau pellach, ar gar, ar drên neu mewn awyren! Mae tua 20 munud yn y car o Gyffordd 33 yr M4 (11 milltir), a dim ond pum milltir i ffwrdd o Faes Awyr Caerdydd (tua 12 munud mewn car), a all fod yn bwysig iawn i gwmnïau sydd â swyddfeydd y tu hwnt i'r Barri.
     
    Mae gan dref y Barri hefyd gysylltiadau rheilffordd a bws da i’r rhai sydd am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i’r gwaith. Mae cysylltiadau rheilffordd rhagorol rhwng y Barri a Chaerdydd (pedair taith bob awr yn ystod yr oriau brig). Mae’r Barri mewn lleoliad da, a chanddi bedair gorsaf drenau sy’n golygu bod pob rhan ohoni’n hygyrch.

  •  Y Boblogaeth a Thai
    Yn 2009 adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 124,600 o bobl yn byw ym Mro Morgannwg. Mae bron 50,000 yn nhref y Barri. Rhagwelir y bydd poblogaeth y Fro’n cynyddu tua 9,000 dros y degawd nesaf. Ar ôl i boblogaeth tref gynyddu dros 50,000 mae amryw o fanwerthwyr a mewnfuddsoddwyr yn cael eu denu, gan ei hystyried yn lle da i fuddsoddi ymhellach. Adeiladwyd tai newydd yn ddiweddar yn y Barri, Penarth a'r Rhws a chynllunnir rhagor o ddatblygiadau tai yn y Barri a’r Rhws gyfagos. Mae datblygiad Cei Glan-y-dŵr am godi 2000 o dai newydd yn y dref. Mae hefyd gyfleoedd ar safleoedd eraill i tua 70 o dai newydd ac mae datblygiadau eraill yn cael eu symud ymlaen.
  •  Addysg

    Mae gan Fro Morgannwg ysgolion rhagorol. Mae Tablau Perfformiad Ysgolion Uwchradd a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru’n dynodi, o gymharu â Chymru gyfan, fod disgyblion ym Mro Morganwg yn cyflawni canlyniadau sy'n well na'r cyfartaledd o ran TGAU a Lefel A / AS neu GNVQ, fel y gwelir isod:

     

      Bro Morgannwg (%) Cymru (%)
     O leiaf un radd TGAU A*-G 94 92
     O leiaf bum TGAU gradd A* - G 90 85
     O leiaf bum TGAU gradd A* - C 58 49

     

    Hefyd, mae Sgôr Pwynt Ehangach Cyfartalog Bro Morgannwg ar Gyfnod Allweddol 4 yr uchaf yng Nghymru ac fel y dangosir yn y siart dros y dudalen, mae perfformiad ysgolion a chyrhaeddiad addysg Bro Morgannwg mewn lle da o gymharu â gweddill Cymru. Mae’r un lefel o berfformiad yn berthnasol ar Lefel Uwch gyda 65% o ddisgyblion yn y Fro’n cyflawni o leiaf ddwy radd A-C (neu gyfatebol) o gymharu â 61% ledled Cymru.

     

    Dangosodd dadansoddiad o ddisgyblion blwyddyn 12/13 yn 2009 (cohort o 708) fod 77.4% dal mewn addysg llawn amser, gyda'r mwyafrif yn symud i addysg uwch, sy'n gynnydd ar y flwyddyn flaenorol. Aeth 10.6% i’r farchnad lafur gyda’r mwyafrif helaeth yn cael swydd yn hytrach na dilyn hyfforddiant. Roedd manwerthu/gwerthiannau’n cyfrif am dros 40% o’r cyfleoedd cyflogaeth y manteisiwyd arnynt. (ffynhonnell: Gyrfa Cymru Caerdydd a’r Fro). Mae’r duedd hon at lefelau uwch o gyflawni academaidd hefyd i’w gweld mewn Addysg Uwch, gyda bron 18,000 o drigolion yn y Fro’n cael gradd uwch neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol (fel meddyg, deintydd, athro cymwys ac ati).

  •  Lleoliad

    Mae ei lleoliad a’i hagosrwydd at Gaerdydd, cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol â mynediad hawdd i’r M4 a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, ynghyd â chysylltiadau rheilffordd da, yn golygu bod y Barri a’r cyffiniau mewn lleoliad rhagorol ym Mro Morgannwg, sy’n hyfryd a llewyrchus. Mae hyn yn cynnig potensial enfawr o ran twf a buddsoddi. 

     

    Mae gwaith parhaus ar Gynllun Datblygu Lleol y Cyngor yn nodi'r Barri fel anheddiad allweddol o ran twf a datblygu. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn unol â dynodi’r Barri’n anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru. O ganlyniad, ystyrir y Barri’n ganolbwynt i dwf a datblygu dros oes y cynllun (2011 – 2026).

     

    Mae dynodi’r Barri’n Ardal Adfywio gan Lywodraeth Cymru yn 2010 wedi bod yn hwb sylweddol, gan gynnig rhagor o fuddsoddiad yn y dref i ddatblygu ar waith adfywio a wnaed yn flaenorol mewn partneriaeth â’r Llywodraeth. Mae’r dynodiad yn dod â buddsoddiad sylweddol i’r Barri i gyflawni projectau amgylcheddol, economaidd a chymunedol allweddol. Ystyrir hyn yn bleidlais o hyder gan Lywodraeth Cymru ym mhwysigrwydd adfywio’r dref, gan adeiladu ar gynnydd diweddar yng nghanol y dref, Sgwâr y Brenin a’r cyffiniau. Cafwyd eisoes weithgarwch adfywio sylweddol yn y dref wedi’i ysgogi gan amrywiaeth o ffynonellau ariannu ac ategwyd hyn gan ddatblygu cynigion strategol pellach. Defnyddir y gwaith hwn fel sail i ddatblygu cynllun gweithredu adfywio ehangach i’r dref gan gynnwys nid yn unig adfywio ffisegol ond materion sy’n ymwneud â thai, sgiliau, anweithgarwch ac iechyd drwy ddull cytbwys o ymwneud â phobl a lleoedd.
     
    Nid oes amheuaeth bod dynodi’r Barri’n Ardal Adfywio a pharodrwydd cynllunwyr allweddol i gyflwyno cynlluniau datblygu ar gyfer cynigion strategol, ar adeg o ddirywiad economaidd, yn bwysig iawn ac yn dangos hyder yn y Barri fel lleoliad sy’n agored i fusnes. Mae’r dref mewn sefyllfa gref a lleoliad da i fod yn un o’r llefydd gorau i fuddsoddi ynddo yn Ne Cymru.

  •  Sylfaen Cyflogaeth y Barri a'r Fro

    Proffil o’r Farchnad Lafur
    Dynododd proffil diweddaraf y farchnad lafur i Fro Morgannwg a wnaed gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) (Gorffennaf 2009 – Mehefin 2010) fod y gyfradd gweithgarwch economaidd, sy’n cynnwys pobl mewn gwaith neu ar gael i weithio, yn 75.8% sef tua 3% yn uwch na chyfartaledd Cymru (72.8%).
     
    O ran y proffil swyddi, dynododd SYG fod 14.9% o drigolion Bro Morgannwg mewn swyddi Proffesiynol a Thechnegol Cyswllt o gymharu â 12.5% yng Nghymru. Mae gan Fro Morgannwg lefel uchel o bersonél mewn swyddi rheoli a gweinyddu gan felly newid  proffil cyflogaeth De-ddwyrain Cymru tuag at ben pellaf yr hierarchaeth alwedigaethol. Er enghraifft, cyflogir 18.5% mewn swyddi rheoli ac 11.4% mewn rolau ysgrifenyddol a gweinyddol.
     
    Patrymau Cymudwyr
    Mae’r tabl isod yn dynodi bod all-lif llawer uwch o’r boblogaeth weithiol o Fro Morgannwg i’r 
    ardaloedd cyfagos, sef Pen-y-Bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.

     

    I O Cyfanswm = Mewnlif / All-lif
    Bro Morgannwg Pen-y-bont ar Ogwr 1879 All-lif Mwy
    Pen-y-bont ar Ogwr Bro Morgannwg 2224  
    Bro Morgannwg Rhonndda Cynon Taf 1377 All-lif Mwy
    Rhondda Cynon Taf Bro Morgannwg 2627  
    Bro Morgannwg Caerdydd 4821 All-lif Mwy
    Caerdydd Bro Morgannwg 16656  

     

    Mae’r data’n dangos yn glir gyfle i gyflogwyr yn y dyfodol ddal a chadw pobl economaidd weithgar yn y Barri a Bro Morgannwg i weithio'n lleol, yn hytrach na chymudo. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ystyried bod y Barri o fewn cyrraedd hawdd i ganolfannau poblog eraill a chyflenwad llafur.

 

Cysylltiadau defnyddiol

Mae’r Cyngor wrth gwrs yn falch o’i record wrth adfywio’r Barri ac mae’n arbennig o hyderus o allu adeiladu ar lwyddiannau diweddar.  Mae swyddogion y Cyngor ar gael i gwrdd ag unrhyw fuddsoddwr posibl i drafod gofynion busnes ar unrhyw adeg.

Rob Thomas

Rheolwr Cyfarwyddwr

  • 01446 709202

Marcus Goldsworthy

Pennaeth Adfywio a Chynllunio

  • 01446 704630

Phil Chappell 

Rheolwr Gweithredol - Adfywio

  • 01446 704623

Rebecca Haves

Arweinydd Tîm, Economi a adfywio Chymdogaeth

  • 01446 704757