Vale of Glamorgan Council
Cyngor Bro Morgannwg

Vale of Glamorgan Council
Cyngor Bro Morgannwg

Rydym yn awyddus i gefnogi pob ymgeisydd (yn enwedig y rhai sy'n datgan anabledd).

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a bydd yn gwarantu cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy’n datgan bod ganddo anabledd ac sydd wedi dangos ei fod yn bodloni’r isafswm meini prawf hanfodol.

Mae'r holl swyddi'n cau am 23:59 ar y Dyddiad Cau uchod oni nodir yn wahanol yn yr hysbyseb.

Sylwch - os nad oes Disgrifiadau Swydd / Manylebau Person ynghlwm â ​​swydd wag, cymerwch yn ganiataol nad oes unrhyw rai ar gael ar gyfer y swydd hon.

  • Cyfarwyddiadau i Ymgeiswyr

  • Ymgeisydd gyda anabledd?

    Rydyn ni wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli’r gymuned rydyn ni’n ei gwasanaethu drwy gynyddu a datblygu nifer y bobl ag anabledd rydyn ni’n eu cyflogi, a’u cynorthwyo i gadw eu swyddi.

     

    Mae Canolfan Byd Gwaith wedi nodi ein bod yn cydymffurfio â gofynion eu hymgyrch i fod yn gadarnhaol wrth gyflogi pobl ag anabledd oherwydd ein bod wedi ymrwymo i’r isod hefyd:

     

    • Cyfweld pob ymgeisydd ag anabledd sy’n boddhau’r meini prawf mwyaf sylfaenol ar gyfer swydd

    • Gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gweithwyr sy’n datblygu anabledd yn aros ym myd gwaith

    • Sicrhau bod ein holl weithwyr yn cyrraedd lefel addas o ymwybyddiaeth o anabledd

    • Sicrhau bod gweithdrefnau yn eu lle i drafod â gweithwyr ag anabledd beth all y ddau barti ei wneud i wneud yn siŵr fod y gweithwyr rheiny’n medru datblygu a defnyddio’u sgiliau

     

    Byddwn ni’n adolygu’r ymrwymiadau hyn bob blwyddyn ac yn asesu’r hyn a gyflawnwyd, yn datblygu ffyrdd o’u gwella, a rhoi gwybod i’r gweithwyr a’r Ganolfan Byd Gwaith am ein cynnydd a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

     

    Os ydych chi’n unigolyn ag anabledd ac rydych chi’n cyrraedd y rhestr fer am swydd, mae gennych hawl i’r isod:

     

    • Ymweliad ymlaen llaw â’r gweithle

    • Addasiadau rhesymol i’ch galluogi i gyfranogi’n llawn yn y cyfweliad

     

  • Gweithwyr Mewnol

    Rhaid i ymgeiswyr am swyddi dros dro ar sail secondiad o'u swydd bresennol sicrhau cymeradwyaeth ysgrifenedig eu rheolwr cyn gwneud cais.

  • Cynllun Car Pwll y Cyngor / Strwythur Tâl a Graddio Lleol / Canfasio aelodau'r Awdurdod

    Lle bo’n berthnasol mae'r Cyngor yn gweithredu cynllun cronfa geir ar gyfer teithio busnes. Lle nad yw'n addas neu bosibl defnyddio cronfa geir, gall milltiroedd car lleol neu gostau teithio fod yn berthnasol, fel y penderfynir gan y Cyngor.

     

    Mae’r Cyngor wedi gweithredu strwythur talu a graddio lleol ynghyd ag amodau a thelerau cysylltiedig ar gyfer pob swydd o fewn cylch gwaith llawlyfr Statws Sengl / NJC ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol. Bydd darpariaethau’r llawlyfr Cenedlaethol yn berthnasol pan fo’r cydgytundeb lleol yn fud neu pan nad oes polisi / gweithdrefn leol arall neu amodau a thelerau lleol eraill yn bodoli.

     

    Bydd canfasio aelodau'r Cyngor, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn anghymwyso'r ymgeisydd. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gyflogwr cyfle cyfartal, gwneir holl apwyntiadau ar sail gallu. Croesawir ceisiadau ar gyfer rhannu gwaith yn ogystal a gweithio llawn amser. Croesawir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Ffurflenni cais cyflawn yn unig a dderbynnir.

  • Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost dilys, a allwch wneud cais ar-lein?

    Na - mae pob cais ar-lein yn gofyn bod gennych gyfeiriad e-bost dilys. Byddai'n well pe baech yn gwneud cais ar-lein gan y bydd yr holl gyfathrebu'n digwydd trwy e-bost yn y mwyafrif o achosion.

     

    Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost dilys, gallwch ofyn am becyn cais trwy ffonio 01446 709364 a chyflwyno'r ffurflen gais fel copi caled i'r cyfeiriad canlynol:

     

    Cyngor Bro Morgannwg

    Adnoddau Dynol

    Swyddfeydd Dinesig

    Ffordd Holton

    Y Barri

    CF63 4RU

     

    Swyddi ysgolion - mae cyfeiriadau at yr hysbysebion hyn - dilynwch y cyfarwyddiadau ar sut i wneud cais yn yr hysbyseb.

  • Recriwtio Diogelach

     

    Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu plant a’u llesiant, ac felly hefyd oedolion bregus. Os ydych chi’n ymgeisio i weithio gyda phlant a/neu oedolion bregus, darllenwch yr isod. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr asiantau, myfyrwyr a chontractwyr.

     

    Polisi Recriwtio Diogelach 

     

  • Adsefydlu Troseddwyr 

     

    Mae’r cyngor wedi ymrwymo i weithredu Deddf Adsefydlu Troseddwyr ac ni fydd yn gwahaniaethu’n annheg yn achos unrhyw ddatgeliad ar sail euogfarn neu wybodaeth arall a ddatgelir. Ceir gwybodaeth bellach am ddatganiad polisi’r Cyngor yma:

     

    Datganiad Polisi ar Recriwtio Cyn-droseddwyr

  • Hysbysiad Preifatrwydd 

     

    Gweler isod y Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Adnoddau Dynol. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn rhan o Hysbysiad Preifatrwydd llawn y Cynghorau, sydd i'w gweld ar  www.valeofglamorgan.gov.uk.

     

    Hysbysiad Preifatrwydd - Adnoddau Dynol 

  • Cyfleoedd Gwirfoddoli / Hyfforddi