Cost of Living Support Icon

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddileu gwahaniaethu ac annog amrywiaeth ymhlith ein gweithlu.  Ein nod yw y bydd ein gweithlu yn wirioneddol gynrychioliadol o bob rhan o gymdeithas a bod pob cyflogai yn teimlo ei fod yn cael ei barchu ac yn gallu rhoi o’i orau.

 

Rydym am hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch i bawb yn ein cyflogaeth ac na fyddwn yn gwahaniaethu oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol (LHDTCRh+). Rydym yn gwrthwynebu pob math o wahaniaethu anghyfreithlon ac annheg.  Bydd pob cyflogai, boed yn rhan-amser, yn llawn amser neu dros dro, yn cael ei drin yn deg a chyda pharch.  Bydd dewis ar gyfer cyflogaeth, dyrchafiad, hyfforddiant ac unrhyw fudd arall ar sail dawn a gallu.

 

Rydym wedi arwyddo Addewid Cyflogwyr Adeg Newid ac rydym yn ymrwymo i newid sut rydym yn meddwl ac yn ymddwyn mewn perthynas ag iechyd meddwl yn y gweithle a sicrhau bod cyflogeion sy’n wynebu’r problemau hyn yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth. Rydym yn hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ac yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd.

 Equalities workplace logos

 

Mae ein gwaith ym maes cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth yn mynd o nerth i nerth, gyda sefydlu ein rwydweithiau:

 

Rhwydwaith GLAM (LHDTCRh+) 

Rhwydwaith staff o gydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ yw GLAM sy'n: 

  • gweithio i gael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr LHDTCRh+ yn y gweithle

  • codi ymwybyddiaeth a gwelededd cyffredinol o'i waith

  • sy’n darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol

Mae’r rhwydwaith yn cwrdd bob mis i gynnig cymorth, cyfle i drafod problemau sy’n effeithio ar bobl LHDT+ ac adnabod ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o faterion LHDTCRh+.

 

Rhwydwaith Amrywiol

Mae’r Rhwydwaith Staff Amrywiol yn gam cadarnhaol i'n sefydliad o ran hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol.

 

Nod y rhwydwaith yw: 

  • Cael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y gweithle

  • Codi ymwybyddiaeth gyffredinol o'i waith, a’i wneud yn weladwy

  • Creu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol

Mae sefydlu'r rhwydwaith yn gam tuag at ddechrau'r sgwrs am gydraddoldeb hiliol yn y Cyngor mewn ffordd adeiladol ac agored a dangos y gall sgyrsiau anghyfforddus arwain at newid gwirioneddol.