Cost of Living Support Icon

Goleuadau Stryd 

Rheoli, cynnal a chadw goleuadau stryd ac offer ffyrdd wedi’i oleuo, yn cynnwys arwyddion, pyst, croesfannau sebra a chroesfannau ysgol ag unedau sy’n fflachio. Rydyn ni’n nodi ac yn atgyweirio diffygion, ac yn trefnu gwaith atgyweirio prydlon, gan ailosod goleuadau sy’n hynafol, yn ddiffygiol neu’n annigonol. Mae nifer o wahanol fathau o oleuadau stryd ym Mro Morgannwg. 

 

Dweud wrthon ni am Ddifrod i Olau Stryd 

Gallwch adrodd am broblemau yn ymwneud â golau stryd unigol ar-lein:

Adrodd am niwed i olau stryd

 

Peidiwch â defnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod am broblem gyda grwpiau o oleuadau stryd, arwyddion wedi'u goleuo neu folardiau. 

 

Os cewch unrhyw anhawster yn cwblhau’r ffurflen, os na allwch ddod o hyd i’r golau rydych chi’n chwilio amdano, neu os oes angen i chi roi gwybod am broblem gyda grwpiau o oleuadau stryd, cysylltwch â:

  • 01446 700111

 

 

Goleuo Datblygiadau Tai Newydd 

Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth cynllunio ac adeiladu cyflawn i ddatblygwyr sy’n gosod systemau goleuo ar safleoedd a fydd yn cael eu mabwysiadu gan y Cyngor.

 

Ymhlith manteision defnyddio’r Cyngor ar gyfer y gwaith hwn mae: 

  • Cynllunio, adeiladu a mabwysiadu – lleihau ffioedd ymgynghori
  • Mae eitemau mewn stoc yn gyson, sy’n golygu bod y gwasanaeth yn brydlon ac yn ddibynadwy
  • Rydyn ni’n cydlynu â gweithredydd y rhwydwaith dosbarthu trydan os oes angen
  • Mae’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â’r Safonau Diogelwch perthnasol ac yn unol â gofynion Cyngor Bro Morgannwg
  • Caiff y gweithfeydd eu mabwysiadu pan gânt eu cwblhau at bwrpas ynni a chynnal a chadw, sy’n lleihau costau datblygwyr
  • Gweithlu cymwys wedi’i hyfforddi i safon NVQ; statws Cyflenwr Cymeradwy NICEIC ac Achrediad Cynllun Cofrestru 
  • Gwaith Trydan y Priffyrdd

 

Am wybodaeth bellach am wasanaeth goleuo datblygiadau newydd, cysylltwch â: