Cost of Living Support Icon

Cydraddoldeb 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddileu gwahaniaethu a dymchwel rhwystrau i wasanaethau, gwybodaeth, lleoliadau, adnoddau a chyflogaeth.   

 

Rydyn ni’n croesawu cyfleoedd cyfartal beth bynnag fo anabledd, tarddiad ethnig, lliw croen, cenedligrwydd, rhyw, hunaniaeth rywiol, statws priodasol, rhywioldeb, dewis yr iaith Gymraeg, diwylliant neu grefydd unigolion.

 

Ffurflen Gwybodaeth am Gydraddoldebau

 

Cynllun Strategol Cydraddoldeb 

Pwrpas y Cynllun Strategol Cydraddoldeb hwn yw manylu ar yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud i gyflawni ei ddyletswyddau yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a’r dyletswyddau sy’n benodol i Gymru. 

 

Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector gyhoeddus yn cynnwys wyth nodwedd warchodedig: oed, hil, anabledd, crefydd neu gred, ailbennu rhyw, rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth a rhywioldeb.  

 

 

Adroddiad Blynyddol Monitro Cydraddoldeb 

Mae’r Adroddiad Blynyddol Monitro Cydraddoldeb yn dweud wrthoch chi am ein gwaith ym maes cydraddoldeb bob blwyddyn

 

Yn yr adroddiad, cewch weld: 

  • Y camau rydyn ni wedi’u cymryd i adnabod a chasglu gwybodaeth berthnasol
  • Y ffordd rydyn ni wedi defnyddio’r wybodaeth hon wrth gyflawni ein dyletswydd cydraddoldeb cyffredinol yn y sector gyhoeddus
  • Rhesymau pam nad ydyn ni wedi casglu gwybodaeth berthnasol
  • Datganiad ar effeithlonrwydd ein trefniadau ar gyfer adnabod a chasglu’r wybodaeth berthnasol
  • Cynnydd wrth gyflawni pob un o’n hamcanion cydraddoldeb a welir yn ein Cynllun Strategol Cydraddoldeb
  • Gwybodaeth benodol am gyflogaeth, yn cynnwys gwybodaeth am hyfforddiant a chyflog.

 

Adroddiad Blynyddol Monitro Cydraddoldeb – Data Agored

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith i sicrhau bod data cydraddoldeb cyrff cyhoeddus ar gael, fel sy'n ofynnol o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol),(Cymru) 2011.

 

Rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gyhoeddi gwybodaeth am faterion yn ymwneud â chyflogaeth bob blwyddyn, a chyflwyno'r wybodaeth honno mewn perthynas â phob un o'r noweddion gwarchodedig. Er bod cyrff cyhoeddus unigol yn cyhoeddi'r wybodaeth hon, nid yw'n hawdd cael mynediad at y data bob amser.

 

Ym mis Medi 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol adroddiad ar rianta a chyflogaeth yng Nghymru a oedd yn cynnwys yr argymhelliad “Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data cyflogaeth sy’n ofynnol yn unol â dyletswyddau sector cyhoeddus Cymru mewn un lleoliad ar wefan Llywodraeth Cymru, mewn fformat sy’n ei gwneud yn bosibl dadansoddi’r data yn rhwydd.”

 

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad ond, gan fod cyflogwyr yn y sector cyhoeddus yn gyfrifol am gydymffurfio â'r ddyletswydd, roedd yn nodi mai'r dull gweithredu a ffefrir ganddi fyddai gweithio gyda'r sector i sicrhau bod data am ei ddyletswydd yn cael eu cyhoeddi fel data agored hawdd cael mynediad atynt. O ganlyniad, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu un lleoliad penodol er mwyn sicrhau ei bod yn hawdd defnyddio’r wybodaeth hon.

 

Pam data agored?

 

Yn ôl y Sefydliad Data Agored, data agored yw data sydd ar gael yn rhwydd i bawb eu defnyddio a'u rhannu. Mae cyrff cyhoeddus yn cyhoeddi llawer o'u data am faterion sy'n ymwneud â'u dyletswydd cydraddoldeb mewn fformat pdf mwy o faint, sef fformat y gallai fod yn anodd cael mynediad at y data, oni bai bod y defnyddiwr yn gwybod lle i chwilio. Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod data cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn cael eu cyflwyno mewn fformat data agored y gall peiriannau ei ddarllen, a lle mae'r data mewn tablau mewn taenlenni data agored (y gellir eu cynhyrchu mewn Excel) o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. Gellid gwneud hynny ochr yn ochr â'r adroddiadau pdf sy'n bodoli eisoes. Byddai sicrhau bod holl ddata cyrff cyhoeddus ar gael o un lleoliad penodol ar-lein yn hybu tryloywder ac yn hwyluso cyfleoedd i ddysgu gan eraill.

 

2017 - 2018

 

Bwlch Tâl Rhyw

Mae’n rhaid i unrhyw sefydliad sy’n cyflogi 250 o gyflogeion neu fwy gyhoeddi ac adrodd data penodol am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw’r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog dynion a menywod, wedi’i fynegi gan gyfeirio at enillion dynion.


Mae’n ofynnol i holl gyflogwyr y sector cyhoeddus gyhoeddi eu gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau erbyn 30 Mawrth bob blwyddyn ar ddyddiad hapddewis o’r 31 Mawrth blaenorol. Ni ddylid drysu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau gyda chyflog cyfartal sef hawl dynion a menywod i gael eu talu’r un gyfradd wrth gyflawni'r un gwaith neu waith cyfartal.