Y diweddaraf o ran y Coronafeirws
Yn dilyn cyngor diweddaraf y Llywodraeth a gyhoeddwyd mewn perthynas â’r pandemig Coronafeirws (COVID-19), mae'r holl glybiau ieuenctid, canolfannau a darpariaethau wedi cael eu cau. Rydym yn cydnabod bod dal angen cymorth ar bobl ifanc ar draws y Fro yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Mae'r Gwasanaeth Lles Ieuenctid yn cynnig cymorth lles cymdeithasol ac emosiynol i bobl ifanc a gyfeirir drwy'r Llinell Cyngor Teuluoedd yn Gyntaf:
Yn unol â mesurau Covid 19, mae'r tîm yn parhau i gynnig y cymorth hwn o gartref drwy fentora dros y ffôn a mentora digidol. Os oeddech yn cael cymorth gan Ysbrydoli i Gyflawni yn eich ysgol cyn y cyfyngiadau symud a hoffech siarad â Tracy, Gavin, Bowie neu Pete, ebostiwch inspire2achieve@valeofglamorgan.gov.uk gyda’ch rhif ffôn a gallant gysylltu â chi.
Bydd ein gwasanaeth cyffredinol yn parhau i fod yn weithredol yn ddigidol yn ystod y cyfnod hwn a byddwn yn diweddaru ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, dewch i ddweud helo! Rydym hefyd yn gobeithio dechrau gweithgareddau rhithwir – cadwch lygad allan!
Gall teuluoedd a phobl ifanc sy'n chwilio am wybodaeth neu gymorth gysylltu â'r tîm drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost hwn:
Gadewch eich enw a'ch manylion cyswllt a byddwn yn cysylltu â chi. Rhowch fanylion y cymorth sydd ei angen neu'r projectau rydych wedi bod yn ymwneud â nhw cyn y cyfyngiadau symud er mwyn ein helpu i gyfeirio eich ymholiad at y gweithiwr ieuenctid cywir.