Cost of Living Support Icon

Uned Diogelwch Dinesig

Yr Uned Diogelwch Dinesig (CPU) sy’n gyfrifol am sicrhau bod y Cyngor wedi paratoi’n drylwyr ar gyfer argyfwng neu drychineb a allai effeithio ar y Fro, ac yn medru ymateb iddynt.

 

Mae’n gyfrifoldeb statudol ar y Cyngor, yn unol â Deddf Argyfyngau Sifil Posib 2004 i baratoi cynlluniau i ddiogelu’r cyhoedd ac ymateb i sefyllfa o argyfwng sy’n effeithio ar y Fro e.e. Gadael mewn Argyfwng, Tywydd Difrifol fel Stormydd Eira, Cyfnodau o Wres Eithafol, Glaw Trwm a Llifogydd.

 

Gyda damwain, mae’r CPU yn cydlynu ymateb y Cyngor ac yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi’r Gwasanaethau Argyfwng.

 

Pan fydd y pwyslais yn newid i sefyllfa o adferiad, y Cyngor fydd yn arwain wrth weithredu’r drefn o hwyluso adfer y gymuned a’r amgylchedd.


 

Nodwch: nid cyfeiriad cyswllt y tu hwnt i oriau swyddfa yw hwn.