Cost of Living Support Icon

Ceisiadau am Wybodaeth

Mae gwybodaeth a gedwir gan y Cyngor ar gael drwy ddwy gyfundrefn; Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

 

Os oes angen mynediad arnoch i wybodaeth am eich hun, caiff hyn ei reoleiddio dan y GDPR a Deddf Diogelu Data 2018.

 

Ceir manylion cryno am y tri darn o ddeddfwriaeth isod.

 

Mae cyfundrefnau Mynediad i Wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn rhoi hawl gyffredinol i gael mynediad i wybodaeth a gedwir gan Awdurdodau. Fodd bynnag, mae creu gwybodaeth newydd neu roi barn neu safbwynt nad ydynt eisoes yn bodoli y tu allan i berthnasedd y cyfundrefnau hyn.  

 

Noder nad yw darparu gwybodaeth dan ddeddfwriaeth mynediad yn rhoi unrhyw hawl awtomatig i ailddefnyddio’r wybodaeth a roddwyd. Yn unol â hyn, os taw eich bwriad yw ailddefnyddio’r wybodaeth, byddai angen i chi wneud cais i’r Cyngor dan Reoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2015.

 

Sylwer: Nid pwrpas deddfwriaeth mynediad i wybodaeth yw mynd i’r afael â chwynion gyda’r awdurdod. Mae sianeli eraill ar gael ar gyfer hyn. Gweler Polisi Cwynion Corfforaethol y Cyngor.

 

freedom of information Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Mae’r rhain yn rhoi hawl mynediad gyffredinol i’r cyhoedd i wybodaeth a gofnodwyd sy’n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus.

 

Sut i wneud cais Rhyddid Gwybodaeth

 

Gwnewch geisiadau gan nodi'n glir y wybodaeth yr hoffech ei chael:

 

Yr Uned Rhyddid Gwybodaeth

Cyngor Bro Morgannwg

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn
Y Barri

CF63 4RU

 

Os yw’r wybodaeth gennym, caiff ei rhoi i chi o fewn 20 diwrnod gwaith* oni bai bod y wybodaeth wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu. Os yw’r wybodaeth y gofynnoch amdani wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu, cewch wybod yn ysgrifenedig gydag esboniad o’r eithriad.  

 

Sylwer:

  • Mae nifer o eithriadau’n bodoli yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol sy’n yn ein hatal rhag datgelu’r wybodaeth. Mae gwybodaeth bersonol yn enghraifft o wybodaeth a fyddai wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu.

  • Mae llawer o’r wybodaeth sy'n cael ei chadw gan y cyngor yn cael ei rhoi i'r Cabinet neu Bwyllgorau Craffu, er enghraifft Cynllunio, Gofal Cymdeithasol, Tai. Mae’r wybodaeth hon eisoes yn y parth cyhoeddus drwy’r cofnodion sy’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. I osgoi aros am wybodaeth drwy gais Rhyddid Gwybodaeth, gallech geisio edrych ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.

  • Gall y cyngor godi tâl am y wybodaeth, yn unol â Pholisi Codi Tâl Mynediad i Wybodaeth y Cyngor. Gweler dolen i’r polisi isod.

  • Gall cwmnïau dalu gyda chardiau credyd corfforaethol, galwch:

  • 01446 700111

 

 

 

*Gall yr amserlen o 20 diwrnod gwaith i’r cyngor ymateb i gais gael ei hymestyn lle bo angen yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ystyried prawf budd y cyhoedd o ran datgelu’r wybodaeth neu, dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, gall yr amser gael ei ymestyn i 40 diwrnod os yw’r cais yn gymhleth neu’n fawr iawn.

 

statscymru.llyw.cymru

 

Trwydded Llywodraeth Agored

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymrwymedig i fod yn awdurdod lleol agored, atebol a thryloyw. Felly, rydym yn cyhoeddi amrywiaeth o wybodaeth i bobl ei defnyddio.


Mae gennych hawl i ailddefnyddio’r wybodaeth hon gan ddilyn telerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Mae rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth ar gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

Diogelu Data – Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth

Mae’r rhain yn rhoi hawliau penodol i unigolion mewn perthynas â gwybodaeth sy’n cael ei chadw amdanynt.  Gallech fod am wneud cais am wybodaeth benodol sy’n cael ei chadw gan y cyngor amdanoch chi. Gelwir hyn yn Gais Gwrthrych am Wybodaeth. 

 

Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018 yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol.

 

Gallwch wneud cais am wybodaeth drwy ein drwy ysgrifennu i:

 

Yr Uned Rhyddid Gwybodaeth

Cyngor Bro Morgannwg  

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

Bro Morgannwg

CF63 4RU

 

  • 01446 700111

 

Yn gyffredinol, caiff y ceisiadau hyn eu prosesu am ddim, ond gweler Polisi Codi Tâl Mynediad i Wybodaeth y Cyngor uchod am wybodaeth am y cyfyngiadau. Mae’n bosibl y gofynnwn i chi gadarnhau pwy ydych chi wrth brosesu ceisiadau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn wrth ymateb.

 

Dan rai amgylchiadau, mae yna eithriad i’r hawl. Os oes eithriad yn berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn pan fyddwn yn ymateb.

 

Mae angen i ni gynnig gwybodaeth am y camau a gymerwyd mewn perthynas â chais heb oedi’n afresymol ac o fewn un mis o dderbyn y cais ar y mwyaf. Gallai’r cyfnod gael ei estyn am ddeufis arall lle bo angen, gan ystyried cymhlethdod a nifer y ceisiadau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw estyniad o fewn un mis o dderbyn y cais.  

 

Cynllun Cyhoeddi

O Ionawr 2009, mae pob awdurdod wedi mabwysiadu cynllun sy’n rhestru gwybodaeth dan saith dosbarth eang:

 

Gwybodaeth Bellach

Mae gwybodaeth bellach am fanylion y cyfundrefnau mynediad ar gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru

Ail Lawr, Tŷ Churchill

Ffordd Churchill,

Caerdydd

CF10 2HH

 

 

 

Ceir manylion pellach ar y ddeddfwriaeth a Rheoliadau Ailddefnydd io Gwybodaeth y Sector Gyhoeddus 2005 gan:

 

Swyddfa Gwybodaeth y Sector Gyhoeddus

 

Safonau Gwasanaeth Cyngor Bro Morgannwg