Cost of Living Support Icon

Ardrethi Busnes

Caiff yr ardrethi annomestig / ardrethi busnes sy'n cael eu casglu gan awdurdodau bilio eu talu i mewn i gronfa ganolog a'u hailddosbarthu i gynghorau sir ac awdurdodau heddlu.

 

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2024-25

Rhaid i bob busnes cymwys wneud cais os ydynt yn dymuno derbyn Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru ar gyfer 2024-25.

 

Gwneud cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2023-24

Rhaid i bob busnes cymwys wneud cais os ydynt yn dymuno derbyn Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru ar gyfer 2023-24.

 

Gwneud cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

 

Talu Ardrethi Busnes 

Ydych chi am sefydlu Debyd Uniongyrchol i dalu'ch Ardrethi Busnes neu archwilio ein dulliau talu amrywiol?

 

Talu eich Ardrethi Busnes

 

 

Busnes Cymru 

Ydych chi'n ystyried dechrau busnes neu ehangu busnes sy'n bodoli eisoes? Am help a gwybodaeth cysylltwch â Busnes Cymru ar 0300 060 3000 neu ewch i.

 

Cyn cymryd safle busnes gwnewch eich ymchwil. Darllenwch y dudalen ganlynol yn ofalus i gael gwybodaeth am sut mae Ardrethi Busnes yn cael eu cyfrifo / sut i ddarganfod gwerth ardrethol safle busnes.

 

Newid Cyfeiriad ar gyfer Ardrethi Annomestig

Cyn i chi ddechrau - Gwiriwch a yw eich eiddo yn ardal Cyngor Bro Morgannwg:

 

Chwilio am eiddo

 

Os mai dim ond eisiau hysbysu'r Cyngor bod eiddo rydych yn parhau i fod yn atebol amdano wedi dod yn wag ydych chi (e.e. wedi tynnu nwyddau / stoc o'r safle), cysylltwch â'r adran yn uniongyrchol (mae’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon).

 

 

Pwy sy'n gorfod talu Ardrethi Busnes?

  • Pan fo eiddo'n cael ei feddiannu, mae'r Ardrethi Busnes fel arfer yn daladwy gan y person, y bartneriaeth neu'r cwmni sy'n ei feddiannu

  • Os yw'r eiddo'n wag, mae'r ardrethu’n daladwy gan y person sydd â hawl i feddiannu

Os oes gan y meddiannydd a'r landlord drefniant lle mae'r landlord yn cael rhent gan gynnwys Ardrethi Busnes, mae'r meddiannydd fel arfer yn gyfrifol o hyd am dalu Ardrethi Busnes. Os mai chi yw'r meddiannydd ac rydych yn trosglwyddo'r bil ardrethi i'r landlord ei dalu, byddwch yn parhau i fod yn atebol am daliad os nad yw'r landlord yn gwneud taliad ar eich rhan.

 

Hyd yn oed pan fo safle busnes yn wag neu heb feddiannwr, bydd yn rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r safle hwnnw dalu Ardrethi Busnes (gelwir y rhain yn ardrethi eiddo gwag).  

Sut caiff fy ardrethi busnes eu cyfrifo?

Rhoddir gwerth ardrethol i bob eiddo busnes. Caiff hyn ei asesu'n annibynnol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Ers 1 Ebrill 2023, mae gwerth ardrethol eiddo’n cynrychioli ei werth rhent blynyddol ar y farchnad agored fel yr oedd ar 1 Ebrill 2021.

 

Gallwch chwilio am werth ardrethol unrhyw eiddo ar wefan Asiantaeth y Swyddfa brisio.

 

Cyfrifir y bil ardrethi drwy luosi'r gwerth ardrethol gyda’r lluosydd ardrethi. Caiff y lluosydd ardrethi ei bennu gan Lywodraeth Cymru a'i adolygu'n flynyddol:

 

Cyfrifir y bil ardrethi drwy luosi'r gwerth ardrethol gyda’r lluosydd ardrethi
 Blwyddyn Lluosydd
 2019/20  .526
 2020/21  .535
 2021/22  .535
 2022/23  .535
 2023/24  .535

A allaf apelio yn erbyn fy ngwerth ardrethol?

Dan rai amgylchiadau penodol, gall y talwr ardrethi (a phobl benodol eraill sydd â budd yn yr eiddo) gynnig newid mewn gwerth.  Bydd angen i chi gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn uniongyrchol. 

 

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Ailbrisio 2023

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) yn diweddaru gwerthoedd trethiannol yr holl eiddo busnes ac eiddo annomestig eraill (eiddo nad ydynt yn gartrefi preifat yn unig) yng Nghymru a Lloegr yn rheolaidd. Gelwir hyn yn ailbrisiad.   

 

Gwerthoedd ardrethol yw am faint o rent y gallai eiddo fod wedi cael ei osod ar ddyddiad prisio penodol. Ar gyfer prisiad 2023, y dyddiad hwnnw oedd 1 Ebrill 2021. 

 

Rydym yn defnyddio'r gwerthoedd ardrethol hyn i gyfrifo biliau ardrethi busnes. 

 

Mae ailbrisiadau yn cael eu cynnal i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo, sy'n golygu bod biliau ardrethi busnes yn seiliedig ar wybodaeth fwy diweddar. 

 

Bydd yr ailbrisiad nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023. 

 

Rydym yn gyfrifol am unrhyw beth sy'n ymwneud â'ch bil ardrethi busnes. Mae'r ASB yn gyfrifol am brisio eich eiddo. Bydd angen i chi felly gysylltu â'r ASB ar gyfer pob ymholiad am eich gwerth ardrethol.

Rhyddhad Trosiannol

 

Mae Rheoliadau Ardrethi Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022 yn darparu ar gyfer rhyddhad ardrethi trosiannol i fusnesau bach yr effeithir yn andwyol arnynt gan ailbrisiad hereditamentau annomestig sy’n dod i rym o 1 Ebrill 2023. Bydd Talwyr Ardrethi cymwys yn talu 33% o'u hatebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24) a 66% yn yr ail flwyddyn (2024-25), cyn cyrraedd eu atebolrwydd llawn yn y drydedd flwyddyn (2025-26).

 

Mae rhagor o wybodaeth am ryddhad trosiannol ar gael drwy ymweld â'r ddolen isod:-

 

Cyfraddau Annomestig – Rhyddhad Cyfraddau Trosiannol ar gyfer Ailbrisiad 2023 | Busnes Cymru (llyw.cymru)

Eiddo Hunan-arlwyo

 

Rhaid i fwthyn/llety/eiddo hunanarlwyo gwyliau fodloni'r meini prawf penodol er mwyn cael ei gyflwyno ar y rhestr ardrethi busnes o restr y dreth gyngor.

 

Hyd at 31 Mawrth 2023 rhaid i eiddo hunan-arlwyo fod ar gael i'w osod am gyfnodau byr am o leiaf 140 diwrnod y flwyddyn a chael ei osod i o leiaf 70 diwrnod y flwyddyn i gael ei roi ar y rhestr ardrethi busnes.

 

Ar 1 Ebrill 2023 bydd y meini prawf yn newid. Rhaid i eiddo hunanarlwyo fod ar gael i'w osod am gyfnodau byr am gyfanswm o leiaf 252 diwrnod i gyd dros y flwyddyn dreth bresennol a’r rhai blaenorol a chael ei osod am o leiaf 182 diwrnod yn ystod y 12 mis diwethaf cyn y bydd yn cael ei gyflwyno ar y rhestr ardrethi busnes.

 

Os yw eich eiddo'n bodloni'r meini prawf, bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Brisio er mwyn ei roi ar y rhestr ardrethi busnes

 

https://www.gov.uk/cysylltu-voa

Problemau wrth dalu eich Ardrethi Busnes?

Mae ardrethi busnes yn fil y mae'n rhaid ei dalu. Fodd bynnag, os ydych yn cael anawsterau, cysylltwch â'r adran ardrethi busnes (manylion ar waelod y dudalen hon) i'w trafod. Efallai y gallwn ddod i drefniant talu y gallwch ei fforddio. 

Cysylltwch â'r adran Ardrethi Busnes 

  • NNDR@valeofglamorgan.gov.uk
E-bost yw'r dull cysylltu cyflymaf

 

  • 01446 709299
Nodwch, efallai y byddwch yn mynd drwodd i beiriant ateb, gadewch neges gyda'ch enw, rhif a natur eich ymholiad a bydd rhywun yn eich ffonio yn ôl.

 

Post:

Ardrethi Annomestig
Gwasanaethau'r Trysorlys
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holltwn
Y Barri
CF63 4RU