Cost of Living Support Icon

Effeithlonrwydd Ynni Cartrefi 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni gwael mewn cartrefi. 

 

Picture2
Bydd yn anoddach cadw cartrefi nad ydynt yn ynni-effeithlon (gyda Sgôr Perfformiad Ynni o dan C) yn gynnes, a bydd y cartrefi hynny’n cael biliau ynni uwch ac yn pwmpio mwy o CO2 i'r atmosffer o'u cymharu â'u cymdogion mwy effeithlon. Gall gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref drwy insiwleiddio a thechnolegau ynni adnewyddadwy gynnig amrywiaeth o fuddion i chi yn ogystal ag i’n planed.

 Buddion i chi: 

  • Lleihau swm y gwres a gollir yn sylweddol
  • Lleihau eich biliau ynni
  • Eich cadw’n gynnes yn y gaeaf, ac yn oer yn yr haf
  • Lleihau eich ôl troed carbon
  • Gwella Sgôr Perfformiad Ynni (Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY)) eich eiddo, gan ei wneud yn fwy deniadol i brynwyr
  • Gwneud eich cartref yn fwy cyfforddus ac atal lleithder
Picture3

 

Ffyrdd syml o ddefnyddio llai o ynni ac arbed ar eich biliau ynni: 

Picture6
  • Trowch eich thermostat i lawr gan 1°c 
  • Diffoddwch y goleuadau yn yr ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio a defnyddiwch fylbiau arbed ynni
  • Peidiwch â gadael pethau yn y modd segur
  • Peidiwch â gorlenwi’r tegell – berwch y dŵr sydd ei angen arnoch
  • Defnyddiwch beiriannau golchi a sychu i gapasiti llawn oni bai bod gennych osodiadau hanner llwyth
  • Peidiwch â gadael tapiau'n diferu, yn enwedig tapiau dŵr poeth
  • Caewch ddrysau i gadw gwres mewn ystafelloedd

 I gael mwy o awgrymiadau arbed ynni, ewch i’r Ymgyrch Help For Households 

 

Mae cadw’n gynnes yn hollbwysig, yn enwedig i bobl hŷn yn y cartref. Mae Age UK yn argymell gwisgo haenau a chadw'n actif gartref, ac mae Cyngor Bro Morgannwg wedi datblygu Cynllun Mannau Cynnes gyda rhwydwaith o fannau cymunedol cynnes a chroesawgar yn dod â phobl ynghyd y gaeaf hwn heb unrhyw gost.  Yn fwy na hynny, mae'r Cyngor hefyd yn cynnig gwybodaeth a chyngor defnyddiol ynghylch Cymorth Costau Byw 

 

Mesurau y gallwch eu rhoi ar waith i'ch helpu i aros yn gynnes gartref ac i leihau eich biliau ynni:

 

  • Insiwleiddiwch eich to, eich llawr a’ch waliau
  • Rhowch ddeunydd atal drafftiau ar ddrysau a ffenestri
  • Uwchraddiwch eich system wresogi i foeler ynni-effeithlon neu bwmp gwres
  • Gosodwch wydr dwbl neu driphlyg
  • Defnyddiwch ffynonellau ynni adnewyddadwy, megis pŵer solar
  • Gwiriwch sgôr TPY eich cartref neu gael prawf TPY i gael argymhellion personol
  • Gofynnwch i'ch darparwr ynni osod mesurydd Deallus i'ch helpu i reoli eich defnydd a'ch costau ynni.
Picture5

  

Prosiect Sero

Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i’r Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd. Mae’n dwyn ynghyd yr ystod eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net erbyn 2030 ac annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol i gefnogi Prosiect Sero gartref.

Cymru Gynnes

Mae Cymru Gynnes yn gweithio gyda gwahanol wasanaethau i sicrhau bod cartrefi'n gynnes ac yn ddiogel.

Gallan nhw roi cyngor am ddim i chi ynghylch:

  • ynni,
  • biliau dŵr,
  • gwres,
  • cofrestru â’r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth,
  • a mesurau diogelwch yn eich cartref.

Gallwch gael cyngor drwy lenwi ffurflen atgyfeirio neu drwy ffonio. 

  • 080 0091 1786

 

 

Warm Wales

 


Nest logo

Cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru

Cymorth i wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon!

Mae cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru yn gwneud cartrefi Cymru ynllefydd cynhesach a mwy ynni effeithlon i fyw ynddyn nhw. Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru i’ch helpu ileihau eich biliau ynni, cynyddu eich incwm, a lleihau eich ôl troed carbon.Gallech hefyd fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim felmesurau inswleiddio gwres cartref am ddim.

 

Ffoniwch rhadffôn 0808 808 2244, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-6pm neu ewch i llyw.cymru/nyth i gael gwybod mwy.

  

   

Cynllun ECO4 (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni gan gynnwys ECO4 Flex)

ECO4 yw'r cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni diweddaraf a weinyddir gan OFGEM. Nod cyllid RhCY yw helpu'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd ac sy'n agored i'r risg o fyw mewn cartref oer, ac y mae eu tŷ yn aneffeithlon o ran ynni.  Mae cyllid RhCY yn talu am osod mesurau effeithlonrwydd ynni fel gwelliannau gwresogi ac inswleiddio, a thrwy hynny yn helpu i leihau cost gwresogi'r cartref a chreu arbedion carbon sy'n dda i'r amgylchedd hefyd.  

 

Darganfold mwy

 

 

Cyngor ar Bopeth (Rhaglen Cyngor ar Ynni)

Helpu dinasyddion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, gan gefnogi'r rhai sydd mewn tlodi tanwydd neu mewn perygl o dlodi tanwydd drwy roi cyngor ar ynni.

CAB logo

Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Cefnogi gyda'ch materion ynni

  • Darparu mesurau effeithlonrwydd ynni a chyflawni canlyniadau

  • Cynnig cyfrifiad o hawl i fudd-daliadau i sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau priodol

  • Grantiau ynni yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol

  • Eich cynghori a'ch cefnogi i gofrestru ar gynlluniau priodol - fel atgyfeiriadau'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth

  • Galluogi atgyfeirio a chymorth - i fynd i'r afael â rhwystrau eraill i fyw mewn cartref diogel a chynnes.  Gallai hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gronfeydd brys, cymorth tai, talebau bwyd, ac ati.

Cysylltwch â Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133. Mae cynghorwyr ar gael 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ar gau ar wyliau banc). Gallwch hefyd ddarganfod mwy drwy'r rhaglen Allgymorth Ynni sy'n creu pwynt mynediad i gymunedau sydd wedi'u tangynrychioli neu sydd wedi'u tanwasanaethu i gael mynediad at gyngor ar ynni a gwasanaethau eraill Cyngor ar Bopeth. Cynnig amser cynghori un i un i bob defnyddiwr – galluogi gofyn cwestiynau am fater penodol y gallech fod yn cael trafferth yn ei gylch.  Bydd unrhyw ofynion cyngor cymhleth ar ynni yn cael eu hatgyfeirio at wasanaeth lleol priodol ar gyfer cyngor arbenigol ar ynni.

Cyngor ar Bopeth Caerdydd a Bro Morgannwg  

   

ST_combo

Solar Together De-ddwyrain Cymru - y broses o brynu paneli solar a batris storio wedi’i hwyluso

Hoffech chi ostwng eich biliau ynni wrth gynhyrchu eich trydan glân eich hun? Mae gosod paneli solar â batris storio yn fuddsoddiad craff, sy’n eich helpu i reoli eich defnydd o ynni wrth leihau eich ôl troed carbon.   

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cyfle i drigolion osod paneli solar o ansawdd uchel am bris cystadleuol. Drwy gynhyrchu eich trydan eich hun, byddwch yn dibynnu llai ar y grid, yn lleihau eich costau ynni ac yn helpu i leihau allyriadau carbon.  

 

Darganfold mwy