Ymgynghoriadau Blaenorol
Diolch am rannu eich barn gyda ni. Byddwn nawr yn diwygio'r cynllun ar ôl ymgynghori a bydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ac yna'r Cyngor ym mis Mawrth.
Mae dogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol CCA newydd wedi'u paratoi i gefnogi polisïau allweddol o fewn y CDLl mabwysiedig ac i ddarparu canllawiau pellach ar gyfer y cyhoedd, ymgeiswyr a datblygwyr. Mae'r Cyngor yn gofyn am eich barn ar yr 'CCA Datblygu Manwerthu a Chanol Trefi' drafft a’r CCA 'Datblygu Economaidd, Tir a Safleoedd Cyflogaeth'. Mae'r ymgynghoriad ar agor am chwe wythnos o 20/10/22 o 01/12/22. Mae'r ymgynghoriad hwn nawr ar gau.
Mae Ailgylchu a Rheoli Gwastraff yn wasanaeth hanfodol a ddarperir gan y Cyngor. Mae’n effeithio ar ein holl drigolion, yn ogystal â busnesau lleol ac ymwelwyr â’r sir. Bydd y strategaeth hon yn cyfrannu at holl amcanion y sefydliad a'r saith nod llesiant cenedlaethol. Mae'r ymgynghoriad hwn nawr ar gau.
Mae'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) yn cael ei gwblhau er mwyn ystyried a chyfleu effeithiau tebygol y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN), ac i awgrymu dewisiadau amgen. Mae'n canolbwyntio ar faterion cynaliadwyedd allweddol ac yn cyflawni nifer o ofynion deddfwriaethol. Paratoi Adroddiad Cwmpasu’r ACI Drafft yw’r cam cyntaf o broses yr ACI. Mae'r ymgynghoriad hwn nawr ar gau.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg yn ymgynghori ar ei Asesiad Lles. Dyma'r ail Asesiad Lles i’w gynnal gan BGC y Fro, gyda'r asesiad diwethaf wedi'i gyhoeddi yn 2017. Mae'r Asesiad Lles yn cynnwys cyfres o adroddiadau sy'n dwyn ynghyd y ffactorau gwahanol niferus sy'n effeithio ar les. Mae Golwg ar Fro Morgannwg – Asesiad o Les y Presennol a'r Dyfodol yn dwyn ynghyd ganfyddiadau'r asesiad ac yn darparu'r dolenni i'r pedwar adroddiad thematig sy'n darparu dadansoddiad manwl o ddata a thystiolaeth. Mae'r ymgynghoriad hwn nawr ar gau.
Mae'r Cyngor yn gofyn am eich barn ar yr Adroddiad Adolygu drafft a’r Cytundeb Cyflawni drafft. Mae'r Adroddiad Adolygu drafft yn ystyried effeithiolrwydd y CDLl mabwysiedig ac yn cadarnhau'r weithdrefn ddiwygio i'w dilyn wrth baratoi'r CDLIN. Mae'r Cytundeb Cyflenwi drafft yn cynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau ac amserlen ar gyfer paratoi a mabwysiadu'r CDLIN. Mae'r ymgynghoriad hwn nawr ar gau.
Oes angen llain neu iard arnoch chi neu eich teulu ym Bro Morgannwg? Mae Opinion Research Services yn gweithio ar ran Cyngor Bro Morgannwg er mwyn siarad â theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn yr ardal. Mae angen i ni ddarganfod faint o leiniau neu safleoedd sydd eu hangen. Mae'r ymgynghoriad hwn nawr ar gau.
Bydd yr Ymgynghoriad Map Rhwydwaith Teithio Gweithredol yn cael ei gynnal mewn tri cham, gan ddechrau ym mis Rhagfyr 2020 ac yn para tan fis Rhagfyr 2021. Rydym am greu rhwydwaith ym Mro Morgannwg sy’n sicrhau mai cerdded a beicio fydd y ffordd fwyaf naturiol ac arferol o deithio’n lleol. Mae'r ymgynghoriad hwn nawr ar gau.