Cost of Living Support Icon

Dweud eich dweud ar Safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a Phobl Sioe

Oes angen llain neu iard arnoch chi neu eich teulu ym Bro Morgannwg?


Mae Opinion Research Services yn gweithio ar ran Cyngor Bro Morgannwg er mwyn siarad â theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn yr ardal.


Mae angen i ni ddarganfod faint o leiniau neu safleoedd sydd eu hangen.


Mae cyfraith o’r enw Deddf Tai (Cymru) 2014 yn golygu bod rhaid i bob Cyngor Lleol sicrhau wedyn bod y lleiniau neu’r safleoedd hynny yn cael eu hadeiladu.

 
Rydych chi wedi eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg i sicrhau bod anghenion llety gwirioneddol Sipsiwn a Theithwyr yn hysbys ym Bro Morgannwg.

 

Sut i ddweud eich dweud

  • Ffoniwch: 01792 535319 

  • Anfonwch neges destun: 07471 267095

 

Bydd angen i chi nodi:

  • Eich enw llawn

  • Yr ardal lle’r ydych yn byw

  • Eich rhif ffôn neu eich cyfeiriad e-bost

 

Yna, bydd Opinion Research Services yn cysylltu â chi i gael sgwrs am eich anghenion ac yn rhannu’r wybodaeth hon â Chyngor Bro Morgannwg.

 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 21 Ionawr 2022.