Cost of Living Support Icon

Uwchraddio Ardaloedd Chwarae

Uwchraddion i ardaloedd chwarae sydd ar y gweill ym Mro Morgannwg.

  

Man Agored y Grange, Gwenfô

Yn ddiweddar, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cwblhau nifer o welliannau i gyfleusterau yn y pentref, gan ddefnyddio arian Adran 106 a gafwyd o ddatblygiadau newydd. Mae'r gwelliannau'n cynnwys yr ardaloedd chwarae newydd yn y Grange a Thwyn yr Odyn, ac adeilad newydd y llyfrgell, sydd bron wedi'i gwblhau erbyn hyn. Mae arian ar ôl o hyd. Mae'r rhain ar gyfer creu neu wella mannau agored cyhoeddus a chyfleusterau cymunedol yng Ngwenfô. Mae'r Cyngor wrthi’n ystyried cyfleoedd yn yr ardal, gan gynnwys gwelliannau ychwanegol ym Mannau Agored y Grange. Beth hoffech chi ei weld yma?  A oes unrhyw fannau neu gyfleusterau cymunedol eraill yr hoffech eu gweld yn cael eu gwella? Hoffai’r Cyngor glywed eich barn. Gweler y posibiliadau a amlinellir isod a chwblhewch y ffurflen adborth i rannu eich barn. 

  

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben.

 

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni.