Cost of Living Support Icon

Canolfannau Hamdden Legacy

Caiff canolfannau hamdden Bro Morgannwg eu rhedeg mewn partneriaeth â chwmni Legacy Leisure.

 

Prif fantais y bartneriaeth hon ydy cynyddu lefel y buddsoddiad yn y canolfannau, a fydd yn cynnig gwasanaeth gwell i chi, y cwsmeriaid.   

 

Gwefan Legacy Leisure

 

 

Exercise class

Canolfannau Hamdden yn y Fro 

Mae’r holl wybodaeth sy’n ymwneud â chanolfannau hamdden yn y Fro, yn cynnwys aelodaeth, oriau agor, prisiau, amserau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd, ar gael ar wefan Parkwood Community Leisure.  

 

 

Y Cynllun Atgyfeirio 

Mae’r Cynllun Atgyfeirio ar gyfer ymarfer corff yn helpu pobl ym Mro Morgannwg sydd â phroblemau iechyd i gyflwyno ffitrwydd i’w ffordd o fyw.  

 

Cyflwynwyd y cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, i’r Fro ym mis Ionawr 2008. Gall trigolion â chyflyrau meddygol penodol gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg i wella’u ffordd o fyw drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a gynhelir gan dîm atgyfeirio ar gyfer ymarfer corff Cyngor y Fro. 

 

Os oes gennych chi ymholiadau, neu os hoffech chi gwyno neu ganmol, ffoniwch 01446 403000 neu ewch i ‘Cysylltu â ni’.