Yn ogystal â’r partneriaid sy’n rhan o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, mae’r Bwrdd yn gweithio gyda nifer o bartneriaethau strategol allweddol:
Partneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig
Drwy’r bartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig, mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn dod â chydweithwyr ynghyd sy’n darparu iechyd a gofal cymdeithasol i bobl Caerdydd a Bro Morgannwg. Nod y bartneriaeth yw gwella gwasanaethau drwy gydweithio’n agosach ar gyfer grwpiau o bobl yn ein cymunedau, gan gynnwys pobl hŷn, plant ag anghenion cymhleth, y rhai ag anawsterau dysgu a’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl. Sefydlwyd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; chwaer-Ddeddf Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol wedi, ac yn parhau i weithio mewn partneriaeth er mwyn gwella lles dinasyddion ledled y Fro.
Polisïau a Strategaethau Allweddol:
Cynllun Ardal Caerdydd a’r Fro ar gyfer Anghenion Gofal a Chymorth
Asesiad Anghenion Y Boblogaeth Caerdydd a’r Fro
Adroddiad Blynyddol y BPR
Partneriaeth Bro Ddiogelach
Partneriaeth diogelwch cymunedol Bro Morgannwg yw Partneriaeth Bro Ddiogelach ac mae’n cynnwys cymysgedd o grwpiau gwirfoddol a chymunedol a sefydliadau statudol sy'n cael eu cefnogi gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â phrojectau lleihau trosedd ac anhrefn ar lefel leol.
Polisïau a Strategaethau Allweddol:
https://safervale.co.uk/domesic-abuse/cardiff-vale-glamorgan-violence-women-domestic-abuse-sexual-violence-strategy-2018-‐-2023/
Gweithio mewn Partneriaeth â Phobl Hŷn
Mae'r gwaith o wella lles pobl hŷn Bro Morgannwg wedi’i gynnwys yng Nghynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Drwy gynnwys anghenion pobl hŷn y Fro yn y Cynllun Lles, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyfrannu at gyflawni Strategaeth Pobl Hŷn Llywodraeth Cymru. Er mwyn sicrhau ein bod yn deall amrywiaeth y materion sy’n effeithio ar bobl hŷn y Fro, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio gyda Fforwm Strategaeth 50+ y Fro hefyd, sef grŵp ar gyfer pobl hŷn y Fro.