Cost of Living Support Icon

Casglu Tystiolaeth

Yn ogystal â monitro cynnydd wrth gyfleu’r Strategaeth Gymunedol a Chynllun Cyflenwi 2014-18, mae ystod o weithdrefnau wedi cael eu datblygu i barhau i wella amrywiaeth y wybodaeth a’r dystiolaeth sydd ar gael i’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol

 

  •  Asesiad Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Lleol Bro Morgannwg

    Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) mae BGC Bro Morgannwg wedi cynnal asesiad llesiant lleol ledled y Fro ac yn ei chymunedau.   Mae BGC Bro Morgannwg wedi cytuno y bydd asesiad y Fro yn canolbwyntio ar gymunedau'r Barri, Dwyrain y Fro a Gorllewin y Fro.  Mae’r asesiad yn ystyried llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Bro Morgannwg  yn ei chyfanrwydd ac yn ein cymunedau a chaiff ei ddefnyddio i lywio Cynllun Llesiant y BGC, a gaiff ei ddatblygu erbyn mis Mai 2018.

     

    Mae’r asesiad yn adnodd gwerthfawr a fydd yn llywio’r gwaith ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus i wella llesiant lleol ac o ran helpu darparwyr gwasanaethau i ddeall mwy am yr hyn sy’n bwysig i’n cymunedau lleol a’r berthynas rhwng gwahanol wasanaethau.

     

    Mae’r asesiad yn ystyried amrywiaeth o ddata a gwybodaeth am y Fro sy'n seiliedig amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys y set data cyffredin a luniwyd gan yr Uned Data Llywodraeth Leol i gynorthwyo BGC i gyflawni’r ymarfer.

     

    Yn ogystal â’r data a gwybodaeth, mae’r asesiad yn defnyddio canlyniadau ystod eang o waith ymgysylltu ac ymgynghori a gyflawnwyd gan bartneriaid y BGC. Mae hyn yn cynnwys canlyniadau gwaith ymgysylltu ac ymgynghori blaenorol yn ogystal â chanlyniadau ein hymgyrch ymgysylltu - 'Amser Siarad'. Mae hyn wedi cynnwys cyfres o arolygon, grwpiau ffocws a gweithdai ac mae adroddiad yn seiliedig ar ganlyniadau’r gwaith ymgysylltu wedi’i gyhoeddi ar y cyd â'r asesiad. Bydd y drafodaeth ynghylch llesiant yn ymarfer parhaus a bydd yr ymgysylltu yn parhau drwy ddatblygiad y Cynllun Llesiant.

     

    Mae’r Asesiad Llesiant ac ystod o ddogfennau ategol ar gael isod. Mae hyn yn cynnwys crynodeb gweithredol, proffiliau cymuned a rhestr o’r adborth sydd wedi dod i law a'r newidiadau a wnaed yn dilyn yr ymgynghoriad ar yr asesiad drafft.

     

    Caiff yr asesiad ei lansio a'i gyhoeddi'n ffurfiol ym mis Mai 2017 ynghyd â rhagor o fanylion o'r gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer y Cynllun Llesiant.  

     

     

     

  • InfoBaseVale - Ystadegau Rhyngweithiol ac Adroddiadau Asesiadau Anghenion

    Mae system InfoBaseVale yn darparu ystod eang o ddata ynglŷn â Bro Morgannwg. Yn eu plith mae: prif ddangosyddion y Strategaeth Gymunedol, dangosyddion tlodi’r cynllun cyflenwi a’r trefniadau monitro sy’n bodoli drwy gyfrwng cynlluniau partneriaethau a strategaethau.

     

    Caiff y system ei llywyddu gan Uned Ddata Llywodraeth Leol, ac mae ynddi gyfres o fapiau rhyngweithiol, tablau a siartiau. Gellir edrych ar y data fesul thema gyffredinol neu fesul canlyniad blaenoriaeth y Strategaeth Gymunedol. O dan bob pennawd canlyniad blaenoriaeth, mae pecyn o wybodaeth perfformiad ar gael, ynghyd ag offer data rhyngweithiol, adroddiadau diweddaru yr asesiad anghenion a nifer o adnoddau defnyddiol eraill.

     

    Yr adroddiadau diweddaru asesiad anghenion sy’n darparu’r wybodaeth fwyaf cyfredol ar unrhyw adeg ar gyfer nifer o’r setiau data allweddol a nodwyd yn yr asesiad anghenion unedig a gynhaliwyd yn 2013 o dan bennawd y canlyniad blaenoriaeth hwnnw. Gellir lawrlwytho’r adroddiadau o’r system mewn amrywiaeth o fformatau.

     

    Bydd y Grŵp Gwybodaeth Busnes yn gweithio i sicrhau bod unrhyw gasgliadau newydd sy’n codi o’r adroddiadau diweddaru’n cael eu cyfathrebu wrth y Bwrdd Gwasanaethau Lleol. 

     
  • Adroddiad Trechu Tlodi Uned Ddata Llywodraeth Leol 

    Un o gasgliadau allweddol Asesiad Anghenion Unedig 2013 (gweler isod) oedd bod anghydraddoldeb ym Mro Morgannwg yn dod i’r amlwg wrth ystyried data islaw lefel ddata awdurdodau lleol. Mewn ymateb i’r casgliad hwn, cytunodd y Bwrdd Gwasanaethau Lleol gynt y dylai trechu tlodi a difreiniad fod yn ganolbwynt i Gynllun Cyflenwi 2014-18.

     

    Yn 2015 comisiynwyd Uned Ddata Llywodraeth Leol i gynnal dadansoddiad manylach i’r difreiniad sy’n bodoli o fewn y Fro drwy astudio ystod o ddata ar lefel Ardaloedd Allbwn Arbennig o Isel. Ymhlith y data a defnyddiwyd, roedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, Cyfrifiad 2011, data sieciau tâl a data gan Adran Gwaith a Phensiynau’r Llywodraeth Ganolog. Roedd casgliadau’r adroddiad hwn yn cadarnhau bod canolbwynt y gweithredu yn y cynllun cyflenwi yn briodol.

     

    Dadansoddiad Trechu Tlodi

  • Asesiad Anghenion Unedig

    Yn 2011 cynhaliodd y Bwrdd Gwasanaethau Lleol gynt asesiad anghenion unedig er mwyn ymgorffori’r canlyniadau yn nrafft Strategaeth Gymunedol 2011–21. Yn 2013, pan gododd yr angen i ddatblygu cynllun cyflenwi newydd ar gyfer 2014–18, neilltuwyd yr orchwyl o adolygu’r asesiad anghenion i’r Grŵp Gwybodaeth Busnes.

     

    Seiliwyd yr asesiad anghenion ar y deg canlyniad blaenoriaeth yn y Strategaeth Gymunedol, a chanolbwyntiodd y gwaith ar adfywio’r setiau data yn yr asesiad anghenion gwreiddiol, ond gan gynnwys cefndir y baslin a’r data islaw lefel y sir pan oedd hynny’n ymarferol.

     

    Cafodd yr asesiad ei strwythuro o gylch Cyflwyniad a Chrynodeb Gweithredol, yna rhannwyd y cynnwys fesul pennod i gynnwys y setiau data a ddefnyddiwyd i asesu’r sefyllfa yn y Fro.