Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Llyfrgelloedd

Benthyca llyfrau, cerddoriaeth a ffilmiau, mwynhau mynediad am ddim i'r rhyngrwyd a defnyddio adnoddau ar-lein llyfrgelloedd y Fro

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Gwasanaeth Llyfrgelloedd

Mae ein holl ganghennau bellach ar agor ac yn barod i'ch croesawu. Cyn ymweld, gwiriwch oriau agor presennol eich cangen yma.

 

Fel sydd wedi digwydd yn ystod cyfnod cyfyngiadau COVID, mae dirwyon a thaliadau benthyciad yn parhau i gael eu hatal dros dro a bydd eitemau ar fenthyg yn parhau i gael eu hadnewyddu'n awtomatig. Byddwn yn parhau i adolygu hyn yn fisol ac yn rhoi o leiaf 21 diwrnod o rybudd o unrhyw newidiadau. Os ydych wedi cael eitemau ar fenthyg am gyfnod hir byddem yn gwerthfawrogi pe gallech eu dychwelyd cyn gynted a phosibl: gallwch wirio eich cyfrif llyfrgell yma neu cysylltwch a'ch llyfrgell leol.

 

Mae cyfrifiaduron a chyfleusterau argraffu ar gael i'w defnyddio ym mhob un o'n canghennau. I sicrhau sesiwn gyfrifiadurol i chi'ch hun, cysylltwch â'ch llyfrgell leol ymlaen llaw i gadw peiriant.

 

Os na allwch ymweld â ni'n bersonol ar hyn o bryd, peidiwch ag anghofio y gallwch gael mynediad i'n gwasanaethau ar-lein i gael mynediad am ddim ac ar unwaith i'n hystod enfawr o e-lyfrau, e-lyfrau llafar a chylchgronau yn ogystal a phapurau newydd digidol a ffynonellau gwybodaeth ar-lein.

 

 

Vale of Glamorgan Libraries Logo

 

Join Your Local Library

Mae Cofrestru Ar-lein ar Agor

Gallwch nawr ymuno ar-lein i gael mynediad ar unwaith i'n hadnoddau ar-lein o gartref.  Cliciwch y botwm isod i gychwyn:

 

Ymuno ar-lein

 

Pori banner - Welsh

 

 

 

 

Dewis Cymru Logo Welsh