Cost of Living Support Icon

Ffioedd a Phrisiaufees and charges

Gwybodaeth am ffioedd a phrisiau yn llyfrgelloedd Bro Morgannwg.

 

Bydd benthyca llyfrau a chyrchu’r rhyngrwyd wastad am ddim yn ein llyfrgelloedd ni, yn ogystal â lawrlwytho e-lyfrau, e-gylchgronau a llyfrau sain digidol.

 

Fodd bynnag, mae rhai taliadau sy’n gysylltiedig ag aelodaeth llyfrgell y dylech fod yn ymwybodol amdanynt. 

 

Eitemau hwyr

Llyfrau 

60c yr wythnos neu ran ohoni (ni chodir tâl am eitemau plant).

Llyfrau Llafar 

60c yr wythnos neu ran ohoni (ni chodir tâl am eitemau plant).

Disgiau Ffilm (DVDs)

60c yr wythnos neu ran ohoni.

Prisiau llogi

Llyfrau Llafar

£1.80 am dair wythnos (ni chodir tâl am eitemau plant nac ar bobl sydd yn ddall neu sy’n methu darllen print arferol) 

Llungopïo 

Du a gwyn   

A4 - 20c y ddalen    

A3 - 30c y ddalen

Lliw 

A4 - 40c y ddalen

A3 - 50c y ddalen

Argraffu

Du a gwyn   

A4 - 20c y ddalen    

A3 - 30c y ddalen

Lliw 

A4 - 40c y ddalen

A3 - 50c y ddalen

 

 

Ceisiadau 

Eitemau sydd mewn stoc neu ar gael yng Nghymru – yn rhad ac am ddim


Eitemau o’r tu allan i Gymru – £6.00

Eitemau Coll neu wedi’u Niweidio 

 

Llyfrau, Llyfrau Llafar, Disgiau Ffilm etc. 

Y pris manwerthu a nodir yng nghatalog y llyfrgell ynghyd ag isafswm ffi o £5.00  

Cerdyn Llyfrgell

Os ydych chi wedi colli’ch cerdyn llyfrgell, gallwch chi brynu un newydd am £2 yn unig.

Amrywiol

Lamineiddio

£1.50 i argraffu a lamineiddio un ddalen A4, £2.00 y ddalen am A3, ac unrhyw dâl llungopïo neu argraffu ar ben hynny.

Ffioedd Hysbysebu

£15.00 y mis neu ran ohono am gardiau busnes lleol neu unrhyw hysbysebion masnachol lleol, annibynnol.

Gweithgareddau Celf a Chrefft

50c y pen i bob plentyn sy’n gwneud gweithgaredd crefft pan ddefnyddir deunyddiau crefft.

Gweithgareddau a Digwyddiadau i Oedolion 

Mae pris digwyddiadau awduron ac eraill yn amrywio rhwng punt a phumpunt.