Llyfrgelloedd Cymunedol Creadigol
Fe sefydlwyd grwp Facebook Llyfrgelloedd Cymunedol Creadigol yn ystod y clo pandemig cyntaf, i ymgysylltu a’n gwirfoddolwyr a ffrindiau llyfrgelloedd a arweinir gan wirfoddolwyr ym Mro Morgannwg: ar-lein ym myd celf a creadigrwydd fel modd o cymeryd ein meddyliau oddi ar y sefyllfa a cawsom ein hunain ac i ddatgloi ein creadigrwydd unigol yn y broses. Sefydlwyd y grwp gan Phil Gauci (Cefnogaeth Llyfrgell Peripatetig) a Janet Blackman (Gwirfoddolwr Llyfrgell a Artist)
Fel grwp ein nod yw annog creadigrwydd i bob oedran a galluoedd drwy ddarparu themau artistig misol, ynghyd a heriau tymhorol, ond yn bennaf oll i annog pawb i rhannu eu gwaith a syniadau gyda ni, mewn amgylchedd anfeirniadol a meithrinol i ddechrau sgyrsiau a rhyngweithiadau. Mewn ymateb rydym yn darparu cefnogaeth a annogaeth gyda awgrymiadau, cyngor, gwybodaeth celf diddorol, gweithgareddau creadigol lleol a chyfleuoedd.
Rydym yn teimlo dylai creadigrwydd fod yn ddihangfa o heriau bywyd – lle fedrwn deimlo yn ddiogel, lle hapus, lle i gael hwyl, archwilio, i chwarae a chysylltu ag eraill ar draws Bro Morgannwg. Ein nod yw creu amgylchedd sydd yn garedig a ddim yn heriol, ond, meithrinol a empathetig, lle i encilio am ysbrydoliaeth a chyfeillgarwch.
Gyda chyfyngiadau Cofid yn codi yn raddol rydym nawr yn dod ar clwb i mewn i’r byd go iawn ac i bob LLyfrgell Cymunedol Y Fro ac i’r diben hynny yn ymchwilio a chynllunio prosectiau, gweithgareddau a arddangosfeydd pellach o waith ein haelodau.
I ymuno a ni medrwch:
Ymuno a ni ar Facebook ar: https://www.facebook.com/groups/268621264251239
Ymuno a ni ar Instagram ar: https://www.instagram.com/cclibraries/
Neu ceisiwch i ymuno'n a'n rhestr bostio am ddiweddariadau ar ein gweithgareddau a sut i gymeryd rhan.
Neu dewch i siarad a ni yn un o’ch Llyfgelleodd Cymunedol.