Cost of Living Support Icon

Sgiliau a Datblygiad Personol

P'un a’ch bod yn awyddus i ddechrau gyrfa newydd, pasio eich prawf gyrru, gwneud cais am ddinasyddiaeth yn y DU neu hyd yn oed ddysgu chwarae offeryn cerdd, yma gallwch ddod o hyd i'n hadnoddau ar-lein i'ch helpu i'ch arwain ar hyd y llwybr at lwyddiant.

 

Universal Skills

Canllawiau cam wrth gam a hawdd eu defnyddio yw Universal Skills, a hynny ar gyfer sgiliau TG sylfaenol a phopeth y mae angen i chi ei wybod am gredyd cynhwysol, chwilio am swydd a chyflogadwyedd a sgiliau swyddi.

 

 

Eich canllaw i:

 

  • Proses Credyd Cynhwysol
  • Proses chwilio am swydd
  • Sut i wneud cais am y naill neu’r llall
  • Cyfraddau taliadau diweddaraf
  • Lanlwytho eich CV
  • Cadw eich canlyniadau chwilio am swydd
  • Creu cyfrif e-bost
  • Llunio CV gan ddefnyddio templedi
  • Paratoi ar gyfer cyfweliadau
  • Sesiynau holi ac ateb ynghylch cyfweliadau

 

universal skills image

 

Mae Universal Skills yn cael ei ddiweddaru bob mis gyda gwybodaeth am Bartneriaid yr Adran Gwaith a Phensiynau a gwefannau’r llywodraeth. Cliciwch y botwm isod i fewngofnodi i'r rhaglen.

 

Mynd i Universal Skills 

Artistworks

Dysgwch chwarae amrywiaeth o offerynnau cerdd drwy wersi ar-lein gyda rhai o offerynwyr proffesiynol gorau'r diwydiant. Dewiswch o blith gitâr, piano, banjo, ffliwt a llawer mwy!

 

Gyda Artistworks gallwch:

 

  • Ddysgu ar eich cyflymder eich hun
  • Dod o hyd i wersi i ddechreuwyr llwyr hyd at offerynwyr mwy profiadol
  • Cael hyfforddiant gan artistiaid recordio proffesiynol go iawn
  • Arbenigo mewn genre cerddorol rydych chi'n ei fwynhau
  • Dod o hyd i gwrs pwrpasol mewn theori cerdd
  • Dod o hyd i wersi i gantorion yn ogystal ag offerynwyr
Artistworks logo

 

Gellir cyrchu Artistworks ar ddyfeisiau symudol drwy’r app Libby, sydd ar gael ar iOS ac Android. Gallwch ddod o hyd iddo drwy ddewis “extras” ar y dudalen hafan a dilyn y cyfarwyddiadau i fewngofnodi. Fel arall, cliciwch y ddolen isod i gyrchu Libby drwy eich porwr.

 

Libby app

Theory Test Pro

Efelychiad ar-lein realistig iawn o brofion gyrru theori’r DU ar gyfer pob categori o gerbydau yw Theory Test Pro. Mae'r gwasanaeth hwn am ddim i holl aelodau Llyfrgelloedd Bro Morgannwg.

 

Mae Theory Test Pro yn cynnwys:

 

  • Mynediad diderfyn at yr holl gwestiynau swyddogol gan y DVSA yn yr un fformat â'r prawf swyddogol.
  • Mae’n cynnwys fersiwn ar-lein o Reolau’r Ffordd Fawr.
  • Efelychiadau fideo realistig o’r ymarfer nodi peryglon.
  • Mynediad at fanciau prawf ar gyfer categorïau ceir, beiciau modur, cerbydau cludo teithwyr a cherbydau nwyddau trwm.
  • Cyfieithu peirianyddol i dros 40 o wahanol ieithoedd gyda phrofion ar lafar er mwyn i chi allu gwrando ar y cwestiynau.
Theory test pro logo

 

Gellir cyrchu Theory Test Pro o unrhyw gyfrifiadur, naill ai yn y llyfrgell neu gartref. Cliciwch isod i ddefnyddio’r adnodd hwn.

 

Theory Test Pro

Go Citizen

Adnodd astudio ar-lein yr GoCitizen.co.uk ar gyfer ymgeiswyr sy’n paratoi ar gyfer y prawf Life in the UK neu'r prawf dinasyddiaeth Brydeinig. Mae’n becyn astudio cynhwysfawr a phrofedig. Mae'n cynnwys fersiwn ar-lein o'r deunyddiau astudio swyddogol diweddaraf a drwyddedwyd gan y Swyddfa Gartref, y bobl sy'n ysgrifennu'r llawlyfr ynghyd â channoedd o gwestiynau prawf ymarfer yn yr un fformat â'r prawf swyddogol.

 

Mae Go Citizen yn darparu:

 

  • Popeth sydd ei angen arnoch i baratoi a phasio'r Prawf Life in the UK ar eich ymgais gyntaf.
  • Mynediad diderfyn at ddeunyddiau astudio o'r Swyddfa Gartref
  • Mynediad diderfyn at gwestiynau ymarfer yn yr un fformat â'r prawf swyddogol
  • Gemau dysgu ychwanegol i'ch helpu i ddeall a chofio deunydd anodd
Go Citizen screengrab

 

Gellir cyrchu Go Citizen o unrhyw gyfrifiadur, naill ai yn y llyfrgell neu gartref. Cliciwch isod i ddefnyddio’r adnodd hwn.

 

Go Citizen