Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Dosbarthiadau a Digwyddiadau

Archwilio’ch coeden deulu, dysgu defnyddio cyfrifiadur neu ddyfais dabled a llawer mwy

 

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithdai drwy rwydwaith llyfrgelloedd Bro Morgannwg. Dyma gyfle i ddysgu mewn cynefin anffurfiol gyda thiwtoriaid cymwys, cyfeillgar. 

classes

 

atomic-training logo

Dysgu yn y Cartref 

Ydych chi’n methu dod i’r llyfrgell? Dysgwch sgiliau digidol gartref gan ddefnyddio hyfforddiant Atomic Training 

Oes angen help arnoch chi i ddefnyddio dyfais dabled, ffôn symudol, cyfrifiadur, Mac, meddalwedd, blogiau, Twitter ac ati?

Mae adnodd hyfforddiant fideo Atomic Training yn cynnig mynediad digyfyngiad i filoedd o glipiau fideo sy’n cynnwys dros 500 o amrywiadau meddalwedd cyfredol. 

 

Sesiwn Ddigidol Anffurfiol

Dewch â’ch dyfais eich hun neu defnyddiwch un o’n rhai ni a gallwn ni ateb ymholiadau a datrys problemau am fynd ar-lein. Does dim angen cadw eich lle – galwch heibio unrhyw bryd.

 

  • Llyfrgell y Barri: Dydd Llun, 10.00am - 12.00pm

  • Llyfrgell Dinas Powys: Dydd Llun, 10.00am - 1.00pm

  • Llyfrgell Llanilltud Fawr: Dydd Llun, 10.00am - 12.00pm

  • Llyfrgell Gwenfô: Dydd Mercher, 10.00am - 12.00pm

  • Llyfrgell Penarth: Dydd Iau, 10.00am - 1.00pm

  • Llyfrgell y Bont-faen: Dydd Gwener, 2.00pm - 5.00pm

  • Llyfrgell y Rhws: Dydd Gwener, 10.00am - 1.00pm

 

Digital Drop-in

    

Cymorth Cyfrifiadurol

Gallwch chi drefnu apwyntiad unigol gydag aelod o staff, a fydd yn eich tywys drwy’r broses o ddefnyddio cyfrifiadur am y tro cyntaf.Pan fyddwch chi wedi magu hyder, gallan nhw eich helpu chi i agor cyfrif e-bost i chi gysylltu â theulu a ffrindiau, a’ch cyflwyno i chwilio ar-lein.

 

I drefnu apwyntiad, cysylltwch â’ch llyfrgell leol

tablet lesson