Galw Heibio Digidol
Mae Galw Heibio Digidol yn cynnig cyfle i chi ddod draw gydag unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu broblemau sydd gennych yn ymwneud â chyfrifiaduron, cyfrifiaduron llechen, mynd ar-lein ac yn y blaen. Does dim angen archebu lle ymlaen llaw – dim ond troi lan ar y diwrnod. Dewch â chymaint o wybodaeth â phosib gyda chi am eich ymholiad ac os oes gennych ddyfais cludadwy yr hoffech ychydig o help gydag ef, e.e. llechen neu liniadur, dewch â hwnnw gyda chi hefyd os oes modd. Caiff sesiynau galw heibio eu cynnal ar yr amseroedd canlynol:
- Llyfrgell y Barri: Dydd Llun 10am - 12pm
- Llyrgell Dinas Powys: Dydd Llun 10am - 1pm
- Llyfrgell Llanilltud Fawr: Dydd Mawrth 10am – 1pm
- Llyfrgell Penarth: Dydd Iau 10am – 1pm
- Llyfrgell y Bont-faen: Dydd Gwener 2pm - 5pm
- Llyfrgell y Rhws: Dydd Gwener 10am - 2pm
Peidiwch â phoeni os na allwch gyrraedd sesiwn yn y llyfrgell - mae sesiynau galw heibio hefyd yn digwydd mewn lleoliadau eraill ledled y Fro.