Cost of Living Support Icon

Ymchwilio i Gwmnïau

Gwybodaeth ac arweiniad ar ymchwilio i gwmnïau yn y DU

 

Os ydych chi’n rhedeg busnes yn y DU, mae tair ffordd y gallwch ei weithredu. Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng y tair math o fusnes oherwydd bod amrywiaeth sylweddol yn y faint o wybodaeth sydd ar gael yn achos y gwahanol fathau.

 

Unig fasnachwr – unigolyn preifat sy’n gweithredu mewn busnes. Nid oes gofyn i unig fasnachwr gofrestru’r cwmni na datgelu manylion ariannol ac eithrio at ddibenion treth. Nid oes rhaid i unig fasnachwr ddatgelu unrhyw wybodaeth i’r cyhoedd oni bai ei fod yn dymuno gwneud.

 

Partneriaeth - gwelir partneriaeth fel arfer mewn gwasanaethau proffesiynol megis cyfreithwyr, cyfrifyddion, asiantaethau tai ac ati. Caiff partneriaethau eu rheoleiddio gan amrywiaeth o ddeddfau seneddol, yn cynnwys Deddf Cwmnïau 1985.

 

Cofrestru’n gwmni yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau - gall cwmni fod yn un cyhoeddus (plc) neu’n gwmni preifat. 

 

Mae’n anodd iawn cael gafael mewn gwybodaeth fanwl am unig fasnachwyr a phartneriaethau am nad oes angen iddyn nhw gofrestru gyda sefydliad canolog ac eithrio Cyllid y Wlad. Fodd bynnag, mae’n ofynnol i gwmnïau gofrestru gyda’r Swyddfa Cofrestru Cwmnïau (a elwir yn aml yn Dŷ’r Cwmnïau), ac mae’n rhaid iddynt anfon gwybodaeth at y swyddfa hon yn rheolaidd.

 

Tŷ’r Cwmnïau

Yn unol â Deddf Cwmnïau 1985, mae’n ofynnol ar gwmnïau cyfyngedig i anfon dogfennau penodol at Dŷ’r Cwmnïau. Ymhlith y dogfennau rheiny fel arfer, bydd y cyfrifon blynyddol. Ymhlith gweithredoedd statudol Tŷ’r Cwmnïau mae:

  • ymgorffori a diddymu cwmnïau
  • archwilio a dal dogfennau sydd wedi eu hanfon ato yn unol â’r Ddeddf
  • gwneud y wybodaeth hon yn hysbys i’r cyhoedd

 

Mae Tŷ’r Cwmnïau’n medru darparu cyfrifon yn uniongyrchol i’r cyhoedd, ond mae’n rhaid talu ffi am hyn. 

Mae pencadlys Tŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd, ond mae ganddo swyddfeydd hefyd yn Llundain, Birmingham, Manceinion, Leeds a Glasgow. Y rhif ffôn canolog ar gyfer ymholiadau yw 08703 333636.

 

Mae gwybodaeth ar wefan Tŷ’r Cwmnïau am y sefydliad, a cheir mynediad i restr o gwmnïau cofrestredig. Mae’r rhestr hon yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol yn unig - enw, cyfeiriad a rhif y  cwmni a’r math o fusnes yw e. Ceir gwybodaeth gan Dŷ’r Cwmnïau ond mae ffi yn daladwy am hyn. Ar gael ond mae’n rhaid talu amdani.

 

Companies House

 

 

Kelly’s Industrial Directory - cyfeirlyfr cynhwysfawr o enwau a chyfeiriadau cwmnïau, sy’n cynnwys gwybodaeth am dros 75,000 o gwmnïau.

 

Kompass - gwybodaeth am 2.3 miliwn o gwmnïau mewn 66 gwlad wedi eu croesgyfeirio â 57,000 o allweddeiriau am gynnyrch a gwasanaethau, 860,000 o enwau masnachu ac enwau 4.6 miliwn o swyddogion.

 

Europages, the European Business Directory - mae’r cyfeirlyfr hwn ar gael mewn 25 o ieithoedd Ewropeaidd, a cheir ynddo enwau bron i filiwn o gynhyrchwyr, cyflenwyr a dosbarthwyr rhyngwladol. Gellir chwilio fesul enw’r cwmni, y math o gynnyrch neu wasanaeth, maes neu sector, a mathau eraill o ddata. 

 

Gwybodaeth ariannol am gwmni

Ceir gwybodaeth ariannol fanwl am gwmnïau yn eu hadroddiad a’u cyfrifon blynyddol. Mae presenoldeb ar-lein gan y rhan fwyaf o gwmnïau, felly chwiliwch wefan y cwmni mae gennych ddiddordeb ynddo, gan fod llawer o gwmnïau’n cyhoeddi’r adroddiad ar eu gwefan.

 

Mi fydd llawer o gwmnïau’n darparu copi o’u hadroddiad blynyddol os cysylltwch chi â nhw yn uniongyrchol. Ffoniwch y cwmni a gofyn am Swyddfa’r Wasg i wneud cais.