Grantiau Ymchwil ac Arloesedd mewn Trafnidiaeth: Hediadau Allyriadau Sero
Ymrwymodd Llywodraeth y DU yn y Cynllun Deg Pwynt ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd i fuddsoddi yn Ymchwil a Datblygu er mwyn uwchraddio seilwaith meysydd awyr y DU i gynnwys awyrennau batri a hydrogen yn eu gweithrediadau o ddydd i ddydd. Bydd arian ar gael i gefnogi gwaith ymchwil a datblygu arloesol i helpu i adeiladu meysydd awyr i’r dyfodol y DU, gan sicrhau eu bod â’r hyn sydd ei angen i gefnogi uchelgais y DU i gynnig y daith fasnachol dim allyriadau gyntaf yn ddiweddarach y degawd hwn, a chreu seilwaith maes awyr cynaliadwy parhaol yn y dyfodol ar gyfer awyrennau trydan a hydrogen.
Bydd y rhaglen yn rhedeg o fewn blwyddyn ariannol 2021/22 gydag amrywiaeth o gyfleoedd i ddiwydiant a'r byd academaidd gymryd rhan mewn gweithgareddau arddangos, gweithdai ac arian grant. Caiff canfyddiadau'r rhaglen eu cyhoeddi er budd sector hedfan y DU gyfan."