Cost of Living Support Icon

Clwb Busnesau Newydd Y Fro

Mae Clwb Dechrau Busnes y Fro yn gasgliad cyfeillgar o berchnogion busnes newydd o fewn Bro Morgannwg.   

Mae gan bob cyfarfod siaradwr gwadd cyffrous gyda gwybodaeth amhrisiadwy am bob agwedd ar ddechrau a thyfu eich busnes.  Rydym yn rhoi sylw i fusnes lleol newydd a fydd yn rhannu eu profiadau gyda chi ac mae cyfle hefyd i rwydweithio gyda phawb sy'n mynychu gan roi cyfle i chi hyrwyddo'ch busnes a chreu rhwydwaith gwerthfawr o fusnesau lleol eraill i weithio gyda nhw. 

 

Dewch draw i ymuno â ni – gwnewch ffrindiau newydd ac ehangu eich gwybodaeth! 

Vale Start Up Club logo

 

  Vale Start Up Club photo banner

  

Emma Richards a Donna Strohmeyer oedd y siaradwyr yn ein digwyddiad mis Mawrth: 

Emma Richards (Emma.Richards@ipo.gov.uk)

Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) 

Donna Strohmeyer (Donna.Strohmeyer@develomentbank.wales)

Banc Datblygu Cymru

 

Bydd ein Clwb Busnesau Newydd y Fro nesaf yn cael ei gynnal Ddydd Llun, 15 Gorffennaf yn y Memo yn y Barri - mwy o fanylion i ddilyn.

 

A chlywed gan un o’n siaradwyr am yr hyn y gall ein Clwb Dechrau Busnes ei wneud i chi...

“Mae Clwb Dechrau Busnes y Fro yn adnodd hynod werthfawr i unrhyw fusnes newydd yn y Fro fanteisio arno oherwydd yr hyn a geir trwy rannu heriau gydag eraill, rhwydweithio a'r cyfleoedd cydweithredu.  A hefyd mae’r cyflwyniadau a gynigir gan arbenigwyr lleol ym mhob digwyddiad yn rhoi’r diweddaraf i bawb ar yr arferion gorau diweddaraf yn y meysydd marchnata, cyllid, AD, ac ati”. - Austin Walters, Ymgynghorydd Strategaeth Marchnata Digidol a Siaradwr Ysbrydoledig 

 

Clywch farn ein mynychwyr....

"Roedd mynd i’r Clwb Busnesau Newydd yn ffordd wych o gwrdd â phobl a chreu perthnasau â busnesau lleol o bob maint. Roedd yr anffurfioldeb yn golygu y gallai pobl sgwrsio heb bwysau, tra’n gwrando ar siaradwyr gwadd yn trafod amryw bynciau difyr. I unrhyw un sy’n dechrau neu’n tyfu ei fusnes, mae’r digwyddiadau rhwydweithio hyn mor bwysig." - Darren Witts, Treganna Designs 

“Mae Clwb Busnesau Newydd y Fro wedi bod yn gymorth mawr yn fy nhaith fusnes. Gall gweithio i’ch hun fod yn unig iawn felly mae bob amser yn dda mynd allan o’r swyddfa a chwrdd â phobl leol sydd mewn sefyllfa debyg. Cefais fy ysbrydoli cymaint gan bob digwyddiad gan wneud llawer o gysylltiadau sy’n parhau i’m helpu i dyfu fy musnes. - Cath Jones, Sadler Jones

 

 

Cynllun Bwrsariaeth Busnes Newydd y Fro

Mae Cynllun Bwrsariaethau Busnesau Newydd y Fro yn darparu bwrsariaethau o hyd at £5,000, gyda 20% o arian cyfatebol yn ofynnol, ar gyfer unigolion a grwpiau o bobl sy'n bwriadu dechrau busnes neu fenter gymdeithasol newydd ym Mro Morgannwg.

 

Darganfod mwy

 

 

Cysylltu â Ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ar ôl ymweld â’r safle, ffoniwch neu e-bostiwch y tîm datblygu economaidd am gymorth. 


 <<Dychwelyd i'r Dudalen Cymorth Busnes