Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Barry Road, Tregatwg
Bron Y Môr
Canolfan Cwm Talwg
Dockside, Glannau'r Barri
Canolfan Gibbondown
Goodsheds, Ardal Arloesi
Prif Stryd, Tregatwg
Cilgant y Parc
Heol y Parc
Heol Holtwn Uchaf
Vere Street, Tregatwg
Camms's Corner
Heol Caerdydd
Cwrt y Castelll/Y Parêd
Pentref Dinas Powys
Trebefered
Crawshay Drive
Penarth
Cornerswell Road
Pill Street
Tennyson Road
Adensfield Way, Ffont-y-gari
Fontygary Road
Rydyn ni’n annog pobl ledled Bro Morgannwg i ymweld â'u canol trefi lleol a chefnogi eu busnesau annibynnol. I ddysgu rhagor a sut gallwch chi gefnogi’ch stryd fawr, dilynwch @valetowncentres ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar gyllid a mentrau Trawsnewid Trefi. Mae cyllid Trawsnewid Trefi yn cefnogi prosiectau i ailddatblygu a gwella canol trefi neu eu hardaloedd cyfagos. Mae'r rhaglen yn annog trefi defnydd cymysg fel lleoedd i fyw, gweithio, ymweld ac aros.
Trawsnewid Trefi: cymorth i wella canol trefi
Mae'r cyllid a gymeradwywyd ar gyfer Bro Morgannwg ar gyfer 2022-2025 yn cynnwys:
4 cynllun creu lleoedd ar gyfer y 4 ardal canol tref. Creu Lleoedd l Cymryd Rhan y Fro (bromorgannwg.gov.uk)
Cynllun grant eiddo gwag hirdymor wedi'i dargedu ar gyfer Heol Holltwn
Cynllun Dynodi Llwybrau'r Barri. Prosiect Dynodi Llwybrau'r Barri l Cymryd Rhan y Fro (bromorgannwg.gov.uk)
Gyda chyllid wedi'i gymeradwyo drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae 4 cynllun yn cael eu datblygu ar gyfer pob un o'r 4 ardal canol tref. Bydd y cynlluniau yn rhoi llais i'r gymuned leol ynghylch dyfodol Penarth, Y Barri, y Bont-faen a Llanilltud Fawr. Mae creu lleoedd yn ymwneud â gwneud mannau cyhoeddus yn well i bawb drwy eu troi'n lleoedd bywiog, croesawgar sy'n gwella ansawdd bywyd y gymuned.
I gael gwybodaeth a sut i gymryd rhan, gallwch ddarllen mwy yma:
Creu Lleoedd - Comisiwn Dylunio Cymru (dcfw.org)
Creu Lleoedd l Cymryd Rhan y Fro (bromorgannwg.gov.uk)
Os ydych chi'n Landlord ar eiddo yng Nghanol y Dref, mae'n bwysig eich bod chi'n parhau i gydymffurfio. Mae nifer o ddolenni a darnau o wybodaeth defnyddiol isod i helpu. Os ydych yn landlord sy'n dymuno prydlesu eich eiddo masnachol, cysylltwch â'r tîm towncentres@valeofglamorgan.gov.uk fel y gallwn helpu i hysbysebu'r cyfle.
Mae tref smart yn ardal drefol sy'n defnyddio gwahanol fathau o ddulliau electronig a synwyryddion i gasglu data. Defnyddir gwybodaeth a geir o'r data hwnnw i reoli asedau, adnoddau a gwasanaethau’n effeithlon; yn gyfnewid am hyn, defnyddir y data hwnnw i wella gweithrediadau a ffyniant yn y dyfodol ar hyd a lled y dref.
Bydd gwybodaeth ychwanegol i fesur nifer yr ymwelwyr ym mhob un o bedair canolfan fanwerthu Bro Morgannwg yn y Barri, y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth yn galluogi'r Cyngor a manwerthwyr i fonitro iechyd a hyfywedd y trefi. Mae hyn yn golygu helpu busnesau i ddefnyddio data i weithio'n ddoethach, nid yn galetach, ac i nodi cyfleoedd ar gyfer twf; gan ddefnyddio data i gyfiawnhau a llywio buddsoddiad, ac i fesur llwyddiant unrhyw ymyriadau.
Mae'r cyngor yng nghamau cynnar gosod cownteri ymwelwyr yn yr ardaloedd hyn.
Bydd y Grant Gwella Masnachol yn rhoi cymorth ar gyfer gwelliannau a gwaith cynnal a chadw i wella gwedd flaen eiddo masnachol a manwerthu ym Mro Morgannwg a gwella ansawdd yr ardal fasnachu fewnol gan gynnwys hygyrchedd. Bydd disgwyl i'r gwelliannau gyfrannu at effaith gadarnhaol ar y strydlun, gan greu amgylchedd mwy deniadol, bywiog, a mwy diogel a fydd yn cynyddu gweithgarwch manwerthu, yn hybu nifer yr ymwelwyr ac yn ysgogi buddsoddiad pellach gan y sector preifat.
Browser does not support script.
Mae gwybodaeth ddefnyddiol arall ar gyfer eiddo masnachol yng nghanol trefi yn cynnwys:
Os oes gennych gwestiynau o hyd ar ôl ymweld â'r safle, cysylltwch â thîm Canol y Trefi am gymorth.