Cost of Living Support Icon

 

Canol Tref Llanilltud Fawr


Llanilltud Fawr yw un o drefi hynaf Cymru. Yn adnabyddus am ei hanes hynafol a'i arfordir hardd, mae'n cynnig cymysgedd perffaith o dreftadaeth, harddwch naturiol ac amwynderau modern.

 

 

 

Llantwit Major Welsh

Mae canol tref Llanilltud Fawr yn gyrchfan swynol i ymwelwyr, gan gynnig cymysgedd o atyniadau hanesyddol a diwylliannol, awyrgylch cyfeillgar a bwytai lleol. 

 

 Pwyntiau diddordeb allweddol:

  • Cyngor Tref llanilltud Fawr
    Mae Cyngor Tref Llanilltud Fawr yn darparu manylion am gyfleoedd, digwyddiadau a gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig i'w trigolion a'u hymwelwyr.
  • Llanilltud Fawr 
    Ymwelwch â Llanilltud Fawr a'r Hen Dref, crwydrwch drwy strydoedd cul gyda bythynnod cerrig traddodiadol a siopau hyfryd ar bob ochr, gan roi cipolwg ar hanes cyfoethog y dref.
  • Traeth Llanilltud Fawr 
    Traeth Llanilltud Fawr – mwynhewch harddwch garw’r traeth creigiog hwn, sy'n berffaith i fynd am dro, chwilio am ffosilau, a ffotograffiaeth.
  • Eglwys Sant Illtud 
    Cyfeirir yn aml at Eglwys Sant Illtud fel "Abaty Westminster Cymru" – mae'r eglwys hynafol hon yn cynnwys pensaernïaeth ac arteffactau hanesyddol trawiadol. 

  

Llantwit Major

 

I gael rhagor o wybodaeth am Lanilltud Fawr, gan gynnwys digwyddiadau a llefydd i aros, ewch i wefan Ymweld â’r Fro.

 

<< Yn ôl i dudalennau Canol y Dref