Cost of Living Support Icon

 

 

Y Bont-faen

Mae Canol Tref y Bont-faen yn gyrchfan hyfryd gyda chymysgedd o swyn hanesyddol ac atyniadau modern gan gynnwys amrywiaeth o fwytai ardderchog a thafarndai clyd, sy'n ei gwneud yn lle perffaith ar gyfer diwrnod allan hamddenol.

 

 

Cowbridge logo Welsh

Mae'r dref farchnad hon o'r 13eg ganrif yn cynnig amrywiaeth o siopau ynghyd â llefydd gwych i aros a bwyta. Cerddwch ar hyd y Stryd Fawr ac archwiliwch y lonydd cefn a'r arcedau – yn berffaith ar gyfer achlysuron arbennig. 

 

Pwyntiau diddordeb allweddol: 

  • Cyngor Tref Y Bont-faen gyda Llanfleiddan
    Mae Cyngor Tref Y Bont-faen gyda Llanfleiddan yn darparu manylion am gyfleoedd, digwyddiadau a gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig i'w trigolion a'u hymwelwyr.
  • Tref y Bont-faen 
    Ystyrir y Bont-faen yn un o leoedd mwyaf ffasiynol Cymru – siopau a chaffis annibynnol, adeiladau hanesyddol a Gardd Berlysiau.
  • Marchnad Ffermwyr Y Bont-faen 
    Beth am ymweld â Marchnad Ffermwyr y Bont-faen, cwrdd â'r cynhyrchwyr a phrynu'r cynnyrch mwyaf ffres a blasus am brisiau cystadleuol iawn.
  • Gardd Berlysiau'r Bont-faen 
    Mae Gardd Berlysiau’r Bont-faen wedi cael ei disgrifio fel gwerddon fach o dawelwch a llonydd, dim ond ychydig gamau i ffwrdd o sŵn a phwysau bywyd modern. 
  • Hanes y Bont-faen 
    Ffordd wych o ddarganfod hanes y Bont-faen yw dilyn Llwybr y Placiau Glas

     

 

Cowbridge TC

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Bont-faen, gan gynnwys digwyddiadau, llefydd i aros a sut i gyrraedd yno, ewch i wefan Ymweld â’r Fro

 

<< Yn ôl i dudalennau Canol y Dref