Y Barri
Mae Canol Tref y Barri wedi’i leoli o amgylch Heol Holltwn a Neuadd y Dref.
Mae gan y Barri nifer o ganolfannau ar gyfer gweithgarwch manwerthu, gan gynnwys ardal Stryd Fawr/Stryd Lydan ac Ynys y Barri. Ychwanegiad mwy diweddar yw’r datblygiad trefol newydd o'r enw Goodsheds ar hen iard ddociau, sy’n cynnwys nifer o siopau annibynnol.
Mae Heol Holltwn yn stryd fasnachol estynedig, sy'n cynnwys ystod amrywiol o fanwerthwyr bach a chanolig annibynnol, ac wedi'i nodweddu gan ei threflun Fictoraidd bywiog a'i threftadaeth bensaernïol gyfoethog. Mae Sgwâr y Brenin wrth galon Heol Holltwn, yn gartref i sawl safle bws, ac yn agos at neuadd y dref, llyfrgell, a’r Parc Canolog. Mae Sgwâr y Brenin felly’n ofod gwych ar gyfer digwyddiadau, mewn lleoliad arbennig. I gael gwybodaeth am logi'r gofod hwn cysylltwch â events@valeofglamorgan.gov.uk
Mae'r y stryd fawr yn gasgliad o siopau annibynnol yn y Barri sy'n darparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion manwerthu, bwyta, yfed a gwasanaeth. Mae'r cynnig manwerthu yn arbenigol iawn, ac nid oes llawer o gwmnïau cenedlaethol mawr yma. Mae nifer o siopau annibynnol o safon yma, yn enwedig rhai sy’n gwerthu dillad merched, gwisgoedd, ac ategolion. Mae ’na hefyd siopau arbenigol sy'n gwasanaethu'r farchnad gwella a dodrefnu’r cartref. Gellir disgrifio nifer o'r manwerthwyr annibynnol fel busnesau cyrchfan ac atyniadau ar gyfer yr ardal.
Ardal Stryd Fawr/Stryd Lydan yw canolbwynt economi nos y Barri hefyd, gyda bariau caffi, bwytai, siopau cludfwyd, a chlybiau nos.
Pwyntiau diddordeb allweddol:
-
Cyngor Tref y Barri
Mae
Cyngor Tref y Barri yn darparu manylion am gyfleoedd, digwyddiadau a gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig i'w trigolion a'u hymwelwyr.
-
Goodsheds
Goodsheds, datblygiad trefol sy'n cynnwys siopau annibynnol mewn cynwysyddion cludo a cherbydau rheilffordd wedi'u hailbwrpasu.
-
Ynys y Barri
Mae promenâd
Ynys y Barri yn edrych dros draeth tywodlyd hyfryd, ac mae digon o weithgareddau ac opsiynau bwyd ar gyfer diwrnod allan gwych.
-
Parc Gwledig Porthceri
Mae
Parc Gwledig Porthceri yn gyfuniad hyfryd o goetir a dolydd yn arwain i lawr i draeth cerrig

I gael rhagor o wybodaeth am y Barri, gan gynnwys digwyddiadau, llefydd i aros a sut i gyrraedd yno, ewch i wefan Ymweld â’r Fro.
<< Yn ôl i dudalennau Canol y Dref