Cost of Living Support Icon

arfordir treftadaethCyflawni ein Gweledigaeth

Nod y Cyngor yw darparu’r gwasanaethau addas i’r bobl berthnasol yn brydlon ac am y pris cywir. 

 

Mae’n cyflawni hyn drwy ei Fframwaith Rheoli Perfformiad, sy’n cysylltu’r cynllun corfforaethol ar ei lefel uchaf â thargedau ac amcanion unigol. 

 

 

Mae Ein Bro - Ein Dyfodol

Mae 'Ein Bro - Ein Dyfodol' yn gynllun ac yn fframwaith i'n gweithgareddau cydweithredol craidd dros gyfnod 2018-2023. Mae’r cynllun hwn yn cynrychioli’r ail Gynllun Llesiant ac mae’n parhau i weithio tuag at gyflawni ein gweledigaeth 2050 ar gyfer y Fro. Mae’r cynllun yn manylu ar y tri amcan llesiant rydym am eu cyflawni, y camau y byddwn yn eu cymryd i wneud hynny a beth fydd canlyniadau’r gweithgareddau hyn ar gyfer 2028.

 

Cynllun Cyflawni Blynyddol

Mae’r Cynllun Cyflawni Blynyddol yn rhoi manylion am y camau gweithredu yr ymgymerir â nhw ar draws y Cyngor yn y flwyddyn sydd i ddod er mwyn cyflawni Amcanion Lles y Cyngor a’r ymrwymiadau yn y Cynllun Corfforaethol pum mlynedd.

 

 

Rheoli Risg

Mae hyn yn golygu adnabod a monitro risgiau posibl a phenderfynu sut i leddfu’r effaith y gallent eu cael ar y Cyngor. 

Strategaeth Pobl a Dogfennau Aegol a Chynllun y Gweithlu 

Mae’r Strategaeth Adnoddau Dynol yn cefnogi’r Cyngor wrth iddo gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Corfforaethol. Mae Cynllun y Gweithlu’n pennu’r gweithredoedd sy’n hanfodol i sicrhau bod y Cyngor yn diwallu anghenion ei weithlu yn y dyfodol. 

 

Cynllun Ariannol y Tymor Canolig 

Mae’r Cynllun treiglol tair blynedd hwn yn datgan sut bydd y Cyngor yn ariannu’r blaenoriaethau a grybwyllir yn y Cynllun Corfforaethol. 

 

Cynllun Rheoli Asedion Corfforaethol 

Mae’r cynllun hwn yn dangos sut rydyn ni’n rheoli ein portffolio tir ac eiddo, ac yn cefnogi’r Cyngor wrth iddo gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Corfforaethol. 

    

Strategaeth Cyfranogiad Y Cyhoedd

Mae ein Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd yn esbonio sut y byddwn yn annog ac yn hwyluso cyfranogiad y cyhoedd ym Mro Morgannwg. Mae'r strategaeth yn nodi sut y bydd y Cyngoryn amrywio ei ddulliau ymgysylltu, ganddefnyddio llwyfannau cyfryngaucymdeithasol, cysylltwyr cymunedol acymgysylltu wyneb-yn-wyneb i weithredu dullintegredig o ran cyfranogiad y cyhoedd. 

Y Cynllun Corfforaethol

Dogfen polisi allweddol y Cyngor ‘Gweithio gyda’n Gilydd am Ddyfodol Disgleiriach’ Mae’r cynllun ar waith am bum mlynedd ac mae’n nodi sut bydd y Cyngor yn cyflawni ei bedwar Amcan Lles ac yn cyfrannu at gyflawni’r saith Nod Lles genedlaethol. 

Hunanasesiad Blynyddol Bro Morgannwg

Mae'r adroddiad Hunanasesu Blynyddol yn amlinellu asesiad y Cyngor ei hun o'i berfformiad fel sefydliad dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn un o ofyniadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, nod yr adroddiad hunanasesu yw rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru, ein rheoleiddwyr, dinasyddion Bro Morgannwg a rhanddeiliaid eraill ein bod yn perfformio'n dda, gan wneud penderfyniadau mewn ffordd agored, a defnyddio'n harian ac adnoddau eraill yn effeithiol i gyflawni ein hymrwymiadau Cynllun Cyflawni Blynyddol a chyfrannu at yr amcanion lles cenedlaethol.

Cynlluniau Gwasanaeth 

Dyma’r dogfennau cynllunio craidd ar gyfer pob gwasanaeth. Maent yn nodi prif nodau ac amcanion pob gwasanaeth ac yn darparu hunanasesiad o’r perfformiad cyfredol.

 

Rheoli Perfformiad  

Drwy reoli perfformiad, mae’r Cyngor yn mesur, monitro ac asesu ei berfformiad er mwyn cyflawni ei amcanion a’i ganlyniadau arfaethedig i’w ddinasyddion. 

Adroddiadau Rheoliadol 

Bob blwyddyn, mae cyrff rheoliadol yn creu adroddiad ar y modd y mae Cynghorau Cymru’n cynllunio cynnydd wrth gyflenwi eu gwasanaethau. 

Strategaeth Ddigidol

Mae’r Strategaeth Ddigidol yn amlinellu sut y byddwn yn trawsnewid ein diwylliant digidol er mwyn gwneud y mwyaf o ofynion a disgwyliadau trigolion, cydweithwyr a phartneriaid. 

Polisi a Strategaeth Caffael

Mae'r Polisi a Strategaeth Caffael yn hyrwyddo caffael effeithiol a chynaliadwy ledled y Cyngor.

 

Eisiau Gwybod Rhagor?

Os ydych am wybod rhagor am sicrhau ein gweledigaeth anfonwch ebost at