Cost of Living Support Icon

Grwpiau Gwirfoddoli a Chymunedol

Gall gwirfoddoli fod yn un o’r ffyrdd o dreulio amser sy’n rhoi’r mwyaf o foddhad i chi.

 

Yn ogystal â gwneud gwir wahaniaeth i’r sefydliad rydych chi'n ei helpu, gallwch ddatblygu eich sgiliau, cyfarfod ffrindiau newydd ac agor eich llygaid i fyd newydd. 

 

Gwasanaeth Cefn Gwlad

Hoffech chi wirfoddoli a gweithio gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor? Rhowch hwb i chi’ch hun ac eraill, cewch hyfforddiant llawn a chymorth gan ein tîm o geidwaid. 

 

Gwirfoddoli

 

Compact y Sector Gwirfoddol

Mae'r pedwerydd rhifyn hwn o'r compact yn adeiladu ar y gwaith partneriaeth sylweddol sy'n digwydd rhwng Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg a Chyngor Bro Morgannwg.

 

Mae'r compact yn cydnabod y cyfraniad enfawr a wneir i gymunedau lleol, a'r gymuned gyfan, drwy weithredu gwirfoddol. Mae'n nodi diffiniadau clir o gyfrifoldebau a disgwyliadau'r Cyngor a'r sector gwirfoddol wrth gydweithio.

 

Compact

 

GVS Volunteering logo

Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS)

Mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS) yn elusen annibynnol ac mae ganddi aelodaeth ffyniannus o sefydliadau gwirfoddoli a chymunedol sy’n weithgar ym Mro Morgannwg. Helpwn wella safon byw pobl a chymunedau drwy gefnogi gwirfoddolwyr, cyfleoedd i wirfoddoli a grwpiau gwirfoddol. 

 

www.gvs.cymru   

 

Elusen Gofrestredig Rhif. 1163193  Cwmni Cyfyngedig drwy Warant Rhif. 9517850 

Value in the Vale logo

Gwerth yn y Fro

Mae Gwerth yn y Fro, cynllun Bancio Amser y Fro gynt, yn rhoi cyfleoedd i drigolion y Fro wirfoddoli i sefydliadau lleol ac yn eu tro’n eu gwobrwyo am eu hamser

 

Gwerth yn y Fro