Cost of Living Support Icon

Gwirfoddoli 

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig sydd am fwynhau'r awyr agored, cwrdd â phobl newydd a helpu i ddiogelu’r amgylchedd. 

 

Hoffech chi wirfoddoli a gweithio gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor? Rhowch hwb i chi’ch hun ac eraill, cewch hyfforddiant llawn a chymorth gan ein tîm o geidwaid.

 

Mae amrywiaeth o swyddi gwirfoddoli ar gael, yn amrywio o arddio, cadwraeth, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a chynnal y cefn gwlad.  

 

Mae cyfleoedd ar gael ym Mharc Gwledig a Phentref canoloesol Llynnoedd Cosmeston, Parc Gwledig Porthceri ac Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn rheolaidd neu’n achlysurol – felly gallwch wirfoddoli pryd bynnag sy’n gyfleus i chi.  

 

Gall gwirfoddoli fod yn brofiad difyr, cymdeithasol, sy’n rhoi boddhad; mae llawer o grwpiau gwirfoddoli wedi’u sefydlu ledled y sir. 

 

Os hoffech chi wirfoddoli, cysylltwch â:

 

 

Watervole

Grŵp Bywyd Gwyllt Cosmeston 

 

Crëwyd grŵp newydd Grŵp Bywyd Gwyllt Cosmeston i fonitro anifeiliaid a phlanhigion y parc. Mae’n cynnwys oedolion brwd sy'n ymrwymedig i fywyd gwyllt Parc Gwledig Cosmeston a’r Warchodfa Natur Leol.

 

Mae’r grŵp yn agored i unrhyw un â diddordeb mewn bywyd gwyllt, ecoleg a chadwraeth waeth faint o brofiad neu wybodaeth sydd ganddynt.

 

Mae aelodau’n cwrdd bob pythefnos am 10.30am ar fore Sadwrn.  Weithiau, mae hefyd yn cyfarfod yn ystod yr wythnos neu gyda’r nos, yn dibynnu ar y gweithgaredd sy’n cael ei wneud. Mae hefyd gyfle i gael hyfforddiant yn y dyfodol.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i sesiwn cysylltwch â Sharon Mullins:

 

 

Bank Vole

Grŵp Bywyd Gwyllt Porthceri

Grŵp o oedolion sydd wedi ymrwymo i helpu’r bywyd gwyllt ym Mharc Gwledig Porthceri ac o’i gwmpas yw Grŵp Bywyd Gwyllt Porthceri.

 

Maen nhw’n cyfarfod unwaith y mis am 10.30am ar fore Sul i dreulio cwpwl o oriau yn y parc yn monitro a chofnodi ffawna a fflora yn y parc a’r ardal gyfagos.

 

Weithiau, mae hefyd yn cyfarfod yn ystod yr wythnos neu gyda’r nos, yn dibynnu ar y gweithgaredd sy’n cael ei wneud.

 

Nid oes angen i chi fod yn aelod o grŵp – gallwch ddod i gyfarfod, eich cyflwyno eich hun a helpu. 

Steve Hunt with shire horse

Pam gwirfoddoli?

Gall gwirfoddoli fod yn foddhaol iawn. Gallwch helpu i gynnal eich ardal leol yn ogystal â chwrdd â phobl o’r un anian.

 

Mae ein gwirfoddolwyr wedi’u cydnabod yn genedlaethol am eu gwaith caled ledled y Fro. 

 

Enillodd Steve Hunt, 70, wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru yn ddiweddar, a dywedodd: 

“Rwy’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored ac yn meddwl bod gwirfoddoli yn rhoi boddhad mawr - yn enwedig wrth weld y newidiadau i un o fy hoff barciau. Rwyf bob amser yn trio gwirfoddoli, ni waeth y tywydd, ac yn clirio coed, gosod giatiau newydd a chreu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt. 


“Byddwn yn argymell gwirfoddoli i bawb, yn enwedig i bobl sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored.”