Cost of Living Support Icon

Gwahardd Cŵn ar Draeth

O 1 Mai i 30 Medi mae cŵn wedi’u gwahardd o nifer o draethau ym Mro Morgannwg.

 

Mae’r gwaharddiad yn berthnasol i:

  • Bae Whitmore (Ynys y Barri)

  • Bae Dwn-rhefn (Southerndown)

  • Cwm Colhuw (Llanilltud) 

  • Traeth Penarth (rhwng y Pier a’r clwb Hwylio yn unig)

  • Pier Penarth (ardal decio yn unig)

  • Cold Knap

Traethau sy’n Caniatáu Cŵn

Mae dal digon o draethau i gŵn eu mwynhau gydol yr haf:

 

Parciau a Gerddi

Gydag amrywiaeth o barciau a gerddi ledled Bro Morgannwg mae digon o lefydd i’w mwynhau.

 

Parciau a gerddi

 

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn caniatáu i’r cyhoedd gael mynediad i dir sydd mewn perchnogaeth breifat. Maent yn ffordd bwysig o gynnig hygyrchedd a mwynhad o gefn gwlad i’r cyhoedd.

 

Mae oddeutu 586km o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn ein sir, yn cynnwys: 

  • 525 km o Lwybrau Cyhoeddus – i’w defnyddio gan gerddwyr yn unig

  • 39 km of Lwybrau March – gellir eu defnyddio gan gerddwyr, marchogion ceffylau  a seiclwyr

  • 22 km o Ffyrdd Cefn – gellir eu defnyddio gan gerddwyr, marchogion ceffylau, seiclwyr a cherbydau heb fodur 

 

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Ymgyrch ‘Mae Cŵn yn Glyfar’

Rydyn ni’n ymwybodol mai lleiafrif o berchnogion sy’n dal i beidio â chodi baw eu cŵn. Hoffem gael eich help i annog perchnogion i dderbyn y cyfrifoldeb am lanhau baw eu cŵn.


Rydyn ni’n gwybod eisoes fod cŵn yn glyfar. Ers canrifoedd, maent wedi bod yn anifail gwaith, ac wedi’u hyfforddi i gyflawni nifer o dasgau, yn cynnwys corlannu defaid ac arogli cyffuriau a ffrwydron. Ond hyd yn hyn, dydyn ni ddim wedi llwyddo i’w dysgu sut i godi eu baw eu hunain, a dyma pryd gallwch chi berchnogion/cerddwyr gofalgar gamu i’r adwy.


Os ydych chi’n berchen ar gi, neu’n gyfrifol am un, sicrhewch eich bod bob amser yn:

  • Mynd â bagiau gyda chi wrth fynd am dro
  • Codi baw eich ci
  • Taflu’r gwastraff i unrhyw un o finiau ysbwriel y Cyngor

 

Dogs queuing for toilets

Dogs-are-clever-poster-2

Dogs are Clever Cooper

Dogs-are-Clever-Christmas-poster

 

Rhoi Gwybod am Faw Ci

Os ydych chi wedi gweld rhywun yn peidio â chodi baw ei gi, gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod i ni:

 

Rhoi Gwybod am Faw Ci