Cost of Living Support Icon
Greenhut

Cytiau Traeth Ynys y Barri  

Mae nifer o gytiau traeth lliwgar, llachar ar Ynys y Barri, a golygfeydd ysblennydd dros Fae Whitmore.

 

Mae rhes o 12 cwt traeth yn sefyll bob ochr i’r wal ddringo drawiadol, ac mae’r cyfan yn ddigon o bictiwr wrth i chi edrych ar ben dwyreiniol y promenâd ar ôl ei adfywiad diweddar.

 

Cawsant eu cynllunio i gynnig lloches gysurus i deuluoedd a grwpiau sy’n ymweld ag Ynys y Barri am y dydd, yn ogystal â chynnig lle preifat i newid dillad a chadw eiddo. 

 

  • Cytiau bach: 2.5m x 1.8m, yn cynnwys socedi trydan
  • Cytiau mawr: 2.4m x 2.5m, yn cynnwys socedi trydan a dŵr tap.

 

Llogi Cwt Traeth 

Oriau Agor: 10:00am – 6:00pm

Nid oes polisi ad-dalu unwaith mae’r trefniant wedi ei wneud. Fodd bynnag, mi allwn ni newid eich dyddiad yn amodol ar argaeledd.

 

Hydref/Gaeaf

Yn yr  hydref/gaeaf mae’r cytiau traeth ar agor o fis Ebrill  i fis Hydref. Fodd bynnag, gall dyddiadau a ffioedd penodol amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

  • Cytiau bach: £7.10 Diwrnod Llawn

  • Cytiau mawr: £13.20 Diwrnod Llawn

Gwanwyn/Haf (Oriau agor 10:00am - 8:00pm)

Yn yr  gwanwyn/haf mae’r cytiau traeth ar agor o fis Tachwedd i fis Mawrth. Fodd bynnag, gall dyddiadau a ffioedd penodol amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

  • Cytiau bach: £21.80 Diwrnod Llawn

  • Cytiau mawr: £37.20 Diwrnod Llawn

 

Archebu cwt traeth

 

Os cewch chi unrhyw anawsterau wrth logi caban, ffoniwch 01446 700111.

 

Gellir estyn oriau yn ystod digwyddiadau.

 

Cytiau Traeth ar gyfer Priodasau a Seremonïau Partneriaeth Sifil

Ychydig o argaeledd ar ddyddiadau penodol yn 2022.

 

Llogi’r lleoliad ar gyfer eich seremoni: £750 (codir tâl ychwanegol am y Cofrestrydd).

 

Mae’r cytiau traeth yn Ynys y Barri yn cynnig lleoliad gwych ar gyfer eich seremoni. Gwnewch eich addunedau eich hunain y tu mewn i gwt traeth neu yn un o’n hardaloedd awyr agored braf. Gallwn gynnal eich seremoni o dan Het y Wrach neu ar ben Cysgodfan y Dwyrain a gallwch warantu y bydd yna olygfa anhygoel, pa un bynnag a ddewiswch.

 

Ymholidadwch

 

  • Trefniadau Gweithredu – defnydd cyhoeddus/domestig yn unig

    Gellir rhagnodi ar-lein drwy’r ddolen uchod.

     

    Rhagnodi ymlaen llaw drwy C1V (01446 700111).Gellir llogi ar y diwrnod ar y safle os oes cytiau ar gael.Rhaid talu’n llawn pan wneir y trefniant. Ni wneir ad-daliadau.

     

    Ar adeg llogi, bydd angen i gwsmeriaid lenwi ffurflen fer i ddarparu enw a chyfeiriad a bydd manylion am eu cyfrifoldebau’n cael eu rhoddi yr un pryd.

     

    Bydd gofyn iddynt dderbyn y drefn fel y’i disgrifir.Nid oes gostyngiadau ar gael.Nid yw’r cytiau ar gael i’w llogi gan elusennau, sefydliadau, masnachwyr, ysgolion ac ati ac eithrio ar adeg digwyddiadau masnachol a drefnwyd ymlaen llaw.

     

    Gellir casglu allweddi o 10.00 ymlaen ar y safle, a dylid eu dychwelyd erbyn amser cau. Bydd rhif ffôn symudol Arolygydd y Safle’n cael ei ddarparu yn achos dychweliad cynnar.

     

    Gellir clustnodi ymlaen llaw tan 3.00 y prynhawn blaenorol.Gellir clustnodi ar y dydd, ond bydd y ffi ddyddiol yn ddyledus yn amodol ar argaeledd.

     

  • Defnydd Masnachol

    Cytiau bach: dim defnydd masnachol. 

     

    Cytiau mawr: i’w rhentu fesul diwrnod am uchafswm o wythnos mewn unrhyw fis.

     

    Caniateir defnydd masnachol (gan fudiadau cymunedol, ysgolion, masnachwyr celf a chrefft, gwerthu crysau-T neu nwyddau sy’n gysylltiedig â’r gyrchfan ac ati) ar rai adegau o’r flwyddyn a chânt eu hysbysebu ymlaen llaw gan y Cyngor ynghyd â dulliau rhagnodi.

     

    Ni dderbynnir defnydd gan fasnachwyr megis bwyd a diod heb ganiatâd ymlaen llaw i’r digwyddiad, e.e. marchnadoedd Nadolig.  

  • Ceisiadau 2024 wedi cau.

     

    Mae chwech o gytiau mawr a chwech o rai bach ar gael i’w llogi am y flwyddyn. Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn gwahodd pobl i gofrestru eu diddordeb mewn llogi cwt traeth am y flwyddyn.

     

    Yn sgil y galw uchel ni all y rheiny sy’n llogi cwt traeth am y flwyddyn wneud cais am un y flwyddyn ganlynol. Ni allwn dderbyn ceisiadau ar gyfer defnydd masnachol.

     

    Sylwer: Ni allwn dderbyn ceisiadau at ddefnydd masnachol.