Cost of Living Support Icon

Cynefinoedd a Bywyd Gwyllt 

Mae gan arfordir Bro Morgannwg amrywiaeth enfawr o blanhigion ac anifeiliaid, sy’n ei wneud yn un o’r ardaloedd o harddwch naturiol mwyaf amrywiol ei bioamrywiaeth yn Ne Cymru.

 

Mae’r dirwedd yn amrywio o glogwyni serth i ffermdir mwyn ac mae’n cynnwys ystod o ecosystemau deinamig, rhai'n wyllt a rhai wedi'u rheoli gan y Gwasanaeth Ceidwaid.

 

Rydym bob amser yn hapus i gael gwybodaeth am blanhigion ac anifeiliaid a welir ym Mro Morgannwg. Anfonwch e-bost atom, gyda llun digidol os yn bosibl, i:

 

 

 

Clustered Bellflowers

Gweirdir Arfordirol

Mae yma weirdir calchaidd a niwtral ar yr arfordir, sy’n llawn planhigion nad ydynt ond yn tyfu mewn math penodol o bridd. Mae ein ceidwaid yn ddygn reoli’r ardaloedd hyn i annog twf ystod eang o blanhigion a fyddai fel arall wedi’u gorchuddio gan brysgwydd.  

 

Rhywogaethau cyffredin: Clychlys Clystiog, Maenhad Gwyrddlas ac Ysgall Clorog.

Bittern

Gwelyau cyrs

I gynnal y cynefin pwysig hwn, mae’r Gwasanaeth Ceidwaid yn gwaredu prysgwydd ac yn rheoli’r gwelyau cyrs fesul rhan i ddenu cynifer o rywogaethau bywyd gwyllt â phosibl, a phwy a ŵyr, efallai y gallem ddenu llygod pengrwn y dŵr i Cosmeston yn y dyfodol arall.

 

Gwelyau cyrs

 

Lleoliad: Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

 

Rhywogaethau cyffredin:  Cynffon y Gath, Gellesgen Felen, Gwaedlys Mawr a Llafnlys Mawr, rhywogaethau Ymerawdwr a Hebogydd Mudol gwas-y-neidr, Mursen Las Gyffredin, Aderyn y Bwn, Telor yr Hesg a Bras-y-gors.

Brimstone (2)

Dolydd

Mae’r dolydd gweirdir yn Cosmeston yn cael eu torri unwaith y flwyddyn ar ôl i’r blodau ddiflannu a’r tociadau gael eu symud, gyda gwartheg yn pori caeau’r colomendy o fis Hydref tan fis Mawrth, ac yna'n cael eu torri eto ar ôl i'r blodau ddiflannu a'r tociadau eu symud. Mae’r cynllun rheoli hwn wedi bod yn gymorth i feithrin twf ac amrywiaeth yn y rhywogaethau o flwyddyn i flwyddyn. 

 

Dolydd

 

Lleoliad:  Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

 

Rhywogaethau cyffredin: Glesyn Cyffredin, Melyn Y Rhafnwydd, Y Fantell Goch a’r Gweirlöyn Llwyd / Briallen Fair Felen, Briallu, Pys-y-ceirw, Helyglys Binc a’r Sgorpionllys.

Duck

Llynnoedd a Phyllau

Mae’r ddwy chwarel ddyfrlawn wedi dod yn brif lynnoedd Cosmeston, dros 12ha o faint, gyda nifer o byllau llai ar hyd y parc gwledig i chi eu crwydro. 

 

Llynnoedd a Phyllau

 

Lleoliadau:  Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston /  Parc Gwledig Porthceri

 

Rhywogaethau cyffredin: Corhwyaden, Hwyaden Gopog, Chwiwell, Hwyaden Bengoch, Hwyaden Lydanbig ac Aderyn y Bwn.

Bluebell

Coetir

Prin fod coetir wrth yr arfordir gan ei fod yn amgylchedd garw. Mae’r coed yn aml yn llai oherwydd y gwyntoedd hallt. Ond lle mae coetir, mae yn aml garped da o flodau’r gwanwyn fel clychau’r gog a chraf y geifr.

 

Coetir

 

Lleoliadau: Parc Dwnrhefn /  Parc Gwledig Porthceri / Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

 

Rhywogaethau cyffredin: Derw, Onnen, Coed Llwyfen, Y Ddraenen Wen, Y Ddraenen Ddu, Cwningod, Llygod Mawr Brown, Llygod Pengron a Draenogiaid. 

edible crab

Glannau Creigiog

Mae traethau’r arfordir yn amrywio o lannau creigiog i draethau tywod maith. Mae pob math o fywyd morol sydd wedi addasu i amodau rhyngllanwol garw ein glannau agored fel blodau’r gwynt, gwyrain a gwichiaid. Mae Bae Dwnrhefn yn draeth da i deuluoedd grwydro a chwilio am grancod.

 

Lleoliadau: Arfordir Treftadaeth

 

Rhywogaethau cyffredin: Corgimychiaid, Blodau’r Gwynt, Gwyrain a Gwichiaid

Green Beetles

Twyni

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr yn rhan o Arfordir Treftadaeth Morgannwg, a reolir bellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Ystyrir ei thwyni tywod ysblennydd yr ail orau yn Ewrop. Mae’n llawn planhigion. Mae hefyd yn ardal o ddiddordeb arbennig ar gyfer ffyngau fel Morel gwerthfawr.

 

Lleoliad:  Arfordir Treftadaeth Morgannwg

 

Rhywogaethau cyffredin: Pili pala, Gwyfynod, Chwilod a Phryfed Tân.

Chough looking for food

Clogwyni

Mae rhan fwyaf clogwyni Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn rhai calchfaen Liasig a charreg glai. Mae rhywogaethau adar sydd o bwys cenedlaethol yn eu defnyddio.

 

Lleoliad:  Arfordir Treftadaeth Morgannwg

 

Rhywogaethau cyffredin: Hebogiaid Tramor a Brain Coesgoch

Brown Hare in grass

Ffermdir

Mae rhan fwyaf tir dynodiad Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn dir preifat. O Aberddawan i Lanilltud Fawr, mae'r ffermdir yn dir âr gan fwyaf, ac mae ffermdir cymysg o Lanilltud Fawr i Southerndown. 

 

Lleoliad:  Arfordir Treftadaeth Morgannwg

 

Rhywogaethau cyffredin: Defaid ac Ysgyfarnogod 

High Brown Fritilaries

Tir comin

Mae hyn yn cynnwys Tir Comin Ogwr ac ardaloedd ger Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Fe’u rheolir gan mwyaf drwy ddefaid yn pori a thocio rhywfaint o lystyfiant.

 

Lleoliadau:  Arfordir Treftadaeth Morgannwg /  Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston /  Parc Gwledig Porthceri

 

Rhywogaethau cyffredin: Britheg Frown a Gwiberod.