Cost of Living Support Icon

Butterfly OrchidY Tegeirian Llydanwyrdd

Gwelir un o olygfeydd mwyaf godidog Bro Morgannwg i Borthceri yn y gwanwyn pan ddaw’r tegeirianau, y briallu, y fioledau, briallen Fair sawrus, bwtsiasen y gog, clychau glas a thafolen y mynydd i’w blodau o fis Mawrth tan ddechrau’r haf.

 

Yn dilyn sawl blwyddyn o reoli ardaloedd glaswelltog, mae niferoedd rhywogaethau’r blodau gwyllt ysblennydd yma wedi cynyddu cryn dipyn. Y blodyn mwyaf trawiadol yw’r tegeirian llydanwyrdd mawr, sydd wedi ffynnu. Ddeng mlynedd yn ôl, gellid cyfrif llond dwrn ohonynt, ond llynedd, roedd bron i dri chant o bigau’r blodau i’w gweld.

 

Mae’r tegeirian llydanwyrdd mawr yn flodyn tal (hyd at 1.5 troedfedd / 457mm) ag arno nifer o flodau lliw hufen tua modfedd / 5mm o led ar un bonyn. Mae siâp y blodyn yn debyg i bilipala bach â chynffon ddwbl a’i adenydd ar led. Mae peillio’n broses arbenigol iawn, ac mae gofyn i gleren fach daro’i chefn ar sachaid o baill wrth iddi chwilio am neithdar yng nghanol y blodyn.