Cost of Living Support Icon

Arfordir a Chefn Gwlad 

Ym Mro Morgannwg, mae amrywiaeth eang o blanhigion, anifeiliaid a chynefinoedd.

 

Ein Ceidwaid sy’n gyfrifol am waith cadwraeth, cynnal a chadw safleoedd, gofalu am lwybrau hawliau tramwy cyhoeddus, creu cynefin, cofnodi bioamrywiaeth a chyfleu Cynllun Addysg yr Amgylchedd i ysgolion. 

 

Gweithle’r Ceidwaid yw Canolfan yr Arfordir Treftadaeth, sy’n rhan o’r Gwasanaeth Cefn Gwlad sy’n gweithio ledled Bro Morgannwg. Mae tîm y ceidwaid yn gweithio ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn ogystal â ledled y Fro.

 


  • Cynnal a chadw Gerddi Dwnrhefn a llwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
  • Rheoli cynefinoedd a chofnodi bioamrywiaeth.
  • Cadwraeth pili-pala’r brith brown y frân goesgoch, hebogiaid gleision a rhywogaethau eraill sydd wedi eu peryglu.
  • Cynllun Addysg yr Amgylchedd i ysgolion a cholegau.

 

 

 

Bride-and-Groom-at-Cosmeston

Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston

Mae amrywiaeth o gynefinoedd yn Cosmeston dros 100 hectar o dir a dŵr, ac mae rhai parthau wedi eu dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy’n amddiffyn y rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid prin ac amrywiol a geir yma.

 

Priodasau mewn Parciau Gwledig

 

 

Vale-Biodiversity-Partnership

Bioamrywiaeth

Ystyr bioamrywiaeth yw’r amrywiaeth o fathau o fywyd. Mae’n cynnwys pob peth byw, o’r chwannen leiaf i’r goeden fwyaf.

 

Fe welwch chi fioamrywiaeth ym mhob man yn y Fro: mewn gerddi trefol a bocsys blodau, mewn coedwigoedd, wrth ymyl y ffordd, mewn cefn gwlad agored, mewn afonydd ac ar hyd yr arfordir.

 

Mae Bro Morgannwg yn cynnal amrywiaeth doreithiog o fywyd gwyllt: mae’r perthi, y coetiroedd, cymoedd yr afonydd a’r arfordir yn ffurfio ein tirwedd ac yn darparu ymborth a chynefin i famaliaid ac adar. 

 

Bioamrywiaeth

 

About grassland ecosystems

Creu lle ar gyfer byd natur

Mae colli glaswelltiroedd llawn blodau gwyllt a’r bywyd gwyllt y mae’n ei gynnal yn fater o bryder i'r cyhoedd. Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth drwy wneud lle i fyd natur ym Mro Morgannwg.

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn rheoli swmp sylweddol o laswelltir. Mae gennym gyfle i adfer a gwella’r glaswelltiroedd hyn fel cynefin i bryfed peillio a bywyd gwyllt arall. Rydym yn bwriadu gwneud hyn drwy ein dull newydd o reoli ymylon ffyrdd a glaswelltir yn y Fro.

 

Creu lle ar gyfer byd natur